Ïã½¶ÊÓÆµAPP

Fy ngwlad:
Data DNA y tu mewn i ddysgl petri

Biotechnoleg

MAES PWNC ÔL-RADDEDIG TRWY YMCHWIL

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd ymchwil o fewn Biotechnoleg

Pam Astudio Biotechnoleg?

Mae ein Staff a'n myfyrwyr yn gweithio gyda'r ), sef project a ariennir gan Lywodraeth Cymru i feithrin capasiti ymchwil, sy'n canolbwyntio ar gymwysiadau biotechnolegol micro-organebau eithafoffilig a’u hensymau a'u metabolynnau. Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr wneud gwaith project o dan adain staff goruchwylio profiadol, o fri rhyngwladol, sydd hefyd yn gysylltiedig â’r Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol. Ymhlith yr arbenigeddau ymchwil mae:

  • Dadansoddi metagenomig o amgylcheddau eithafol a chynefinoedd microbaidd eraill sy'n gyfoethog mewn ensymau sy'n berthnasol i ddiwydiant.
  • Astudiaethau genomau ac o.
  • Nodweddu ensymau sy'n diraddio polyester synthetig microbaidd.
  • Ffynonellau, ecoleg a thynged pathogenau microbaidd dynol (bacteriol a firaol) mewn amgylcheddau aberol a'u rhyngweithiadau â maetholion, deunyddiau gronynnol crog (fflociau), gwaddodion a physgod cregyn.
  • Datblygu dulliau gwell o feintioli amrywiaeth a helaethrwydd y tacsa microbaidd yn yr amgylchedd.
  • Microbioleg eithafoffilau - yn canolbwyntio ar amrywiaeth a chymhwysiad y bywyd microbaidd sy'n ffynnu mewn amgylcheddau hynod asidig.
  • Bioadferiad amgylcheddau a lygrwyd gan fetel ac asid, ynghyd â datblygu dulliau newydd ar gyfer adfer ac ailgylchu metelau o wastraff.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Biotechnoleg

Mae cyfnod ôl-genomeg yr unfed ganrif ar hugain yn cynnig amrywiol gyfleoedd gwaith yn y meysydd amaethyddol, meddygol, fferyllol, dyframaethu, fforensig a gwyddor yr amgylchedd. Mae economïau Tsieina ac India, sy'n datblygu'n gyflym, yn benodol wedi gweld y cyfleoedd enfawr y mae biotechnoleg yn eu cynnig.  Mae swyddi ym meysydd gwerthu a marchnata gyda chwmnïau gwyddonol eu natur hefyd yn gyffredin. Bydd rhai graddedigion hefyd yn dewis helaethu a dyfnhau eu gwybodaeth trwy gyflawni rhaglenni PhD mewn meysydd perthnasol.

Mae ein graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd mewn ymchwil (yn y byd academaidd ac mewn sefydliadau ymchwil) yn ogystal â gweithio i ymgynghoriaethau amgylcheddol masnachol, DEFRA, awdurdodau dŵr, cyhoeddiadau gwyddonol, penseiri tirwedd a llawer mwy.

Ein Hymchwil o fewn Biotechnoleg

Mae gennym sylfaen ymchwil gref mewn nifer o feysydd, gan gynnwys: ecoleg foleciwlaidd, geneteg pysgodfeydd, DNA hynafol, bioleg esblygiadol a chadwraethol, biogeocemeg, biohydrofeteleg, biocemeg cynnyrch planhigion a ffisioleg straen (planhigion), biogeocemeg gwlypdiroedd, niwroffisioleg anifeiliaid cramennog, ymatebion anifeiliaid i straen a microbioleg gymhwysol.  Cynhelir ein gweithgareddau ymchwil Bioleg a Sŵoleg gan ein grwpiau ymchwil yn y meysydd a ganlyn:

Ecoleg ac Esblygiad Moleciwlaidd 
Biogeocemeg a Gwyddor Planhigion 
Ymddygiad a chadwraeth Ffisioleg Anifeiliaid  
Parasitoleg microbioleg a biotechnoleg 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.