Mae Freya St John a Harriet Ibbett yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi rhyddhau adnodd newydd am ddim, sef llawlyfr i wneud ymchwil ar achosion o dorri rheolau o fewn cadwraeth, sydd ar gael
Mae'r canllaw ymarferol hwn wedi'i gynllunio i gefnogi ymarferwyr ac ymchwilwyr cadwraeth sy'n awyddus i ddeall achosion o dorri rheolau mewn cyd-destunau cadwraeth. Mae’r llawlyfr yn cynnwys:
Technegau gofyn cwestiynau am bynciau sensitif
Cyngor ar ysgrifennu cwestiynau cadarn
Canllawiau ar foeseg ymchwil
Awgrymiadau arbenigol er mwyn gwneud gwaith maes llwyddiannus
P'un a ydych yn newydd i ddulliau ymchwil gwyddorau cymdeithas neu'n awyddus i fireinio'ch dulliau, mae’r llawlyfr hwn yn ddelfrydol i chi!
Pam ei fod yn bwysig
Mae deall pwy sy'n dilyn rheolau, a pham, yn hanfodol wrth lywio dyluniad polisi a strategaethau cadwraeth ar lawr gwlad. Os ydynt yn seiliedig ar dybiaethau anghywir, mae'n annhebygol y bydd atebion cynaliadwy’n cael eu gwireddu. O ganlyniad, mae angen sgiliau a dulliau ar wyddonwyr cadwraeth sy'n eu helpu i ddeall pa mor gyffredin yw gweithgarwch anghyfreithlon, a'r ffactorau sy'n eu gyrru.
Beth sydd wedi’i gynnwys
Er mwyn eich helpu wrth ddylunio eich ymchwil, rydym wedi strwythuro'r llawlyfr o amgylch camau’r broses o ddylunio astudiaethau. Rydym yn dechrau trwy roi trosolwg o resymau a dulliau o ran astudio cydymffurfiaeth ac yn rhoi sylw arbennig i foeseg ymchwil a'r broses gydsynio. Rydym hefyd yn cyflwyno ffyrdd o ddeall a yw eich pwnc ymchwil yn un sensitif ac rydym yn disgrifio pedwar Techneg Holi Arbenigol gwahanol a gynlluniwyd i amddiffyn eich ymatebwyr yn well a gwella ansawdd data. Rydym hefyd yn darparu awgrymiadau ar ysgrifennu eitemau holiadur a graddfeydd ymateb cadarn. Mae’r adran olaf yn awgrymu ffyrdd o rannu eich canfyddiadau.
Dywed Freya St. John, arweinydd ConHuB a chyd-awdur y llawlyfr:
Understanding topics like rule breaking can be really challenging! Our freely available handbook condenses our knowledge and experience in striving to collect robust data on conservation compliance directly from people, with the aim of supporting others
Cael Eich Copi
Lawrlwythwch eich heddiw ac ewch i wefan ConHuB am fwy o adnoddau ar integreiddio ymchwil ymddygiad dynol i wyddoniaeth ac ymarfer cadwraeth.
Cydnabyddiaethau
Cynhyrchwyd y llawlyfr hwn fel rhan o brosiect a dderbyniodd gyllid gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) o dan Gytundeb Grant Horizon 2020 Rhif 755956 (CONHUB) yr Undeb Ewropeaidd a ddyfarnwyd i Dr St John.
Cydnabyddiaethau
Cynhyrchwyd y llawlyfr hwn fel rhan o brosiect a dderbyniodd gyllid gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) o dan Gytundeb Grant Horizon 2020 Rhif 755956 (CONHUB) yr Undeb Ewropeaidd a ddyfarnwyd i Dr St John.