Yn y gwanwyn eleni, ychwanegwyd safle ymchwil newydd at rwydwaith arbrofion ecolegol hydredol yr : Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed Lady Park, sydd wedi'i lleoli yn Nyffryn Gwy ac sy’n ymestyn dros y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Dynodwyd y coetir llydanddail hynafol 36 hectar hwn yn warchodfa ymchwil mor bell yn ôl ag 1944, er mwyn caniatáu cymhariaeth uniongyrchol rhwng adrannau coetir heb eu rheoli a rhai a reolir o dan amodau amgylcheddol tebyg. Dros yr wyth deg mlynedd diwethaf, defnyddiwyd trawsluniau canopi parhaol a phlotiau fflora’r ddaear i olrhain ymateb y coetir i aflonyddwch ecolegol, gan ddarparu data sy'n disgrifio newidiadau yng nghyfansoddiad rhywogaethau ac aildyfu coetiroedd sy'n hanfodol ar gyfer cynllunio gwaith cadwraeth ac adfer.
Meddai John Healey, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor:
Mae gan y safle hwn botensial uchel ar gyfer amrywiaeth eang o brojectau ymchwil sy’n ymwneud ag ecoleg, gwyddor coedwigoedd, a chadwraeth. Mae'r safle'n addas ar gyfer ymchwil ecolegol bwysig ar wytnwch coetiroedd o dan bwysau cyfunol sychder, clefydau coed, ac effeithiau difrifol ceirw a baedd gwyllt, hyd yn oed gyda chyflymiad posibl i drobwynt ecosystem gyfan.
Mae partneriaeth gydweithredol newydd rhwng Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Bangor bellach wedi ymgymryd â’r gwaith o fonitro'r gyfres helaeth o blotiau sampl parhaol yn y coetir. Arweinir y bartneriaeth gan Marielle Smith a John Healey (Bangor), ac Andrew Hacket-Pain (Lerpwl), ac mae’r tîm o ddeg ymchwilydd—gan gynnwys y myfyrwyr MSc Ciaran Gatenby a James Harding—wedi gwneud cynnydd sylweddol yn eu hymgyrch ailfesur ddiweddaraf. Dros wythnos ym mis Mai eleni, fe wnaethant adleoli'r trawsluniau canopi gwreiddiol 20 metr o led a osodwyd ym 1944, cofnodi diamedr coed ffawydd, coed derw a chadeiriau coedlannau hynafol ar uchder y frest, ac arolygu 120 o blotiau fflora’r ddaear i fesur egino eginblanhigion a datblygu glasbrennau.
Dywedodd James Harding, myfyriwr MSc:
Cefais amser gwych yn gwirfoddoli gyda'r tîm yng Nghoed Lady Park ac roedd yn teimlo'n ystyrlon chwarae rhan fach mewn project mor hirdymor. Dysgais lawer am gymhlethdodau tirfesur ecolegol ac roedd yn ddiddorol ei weld ar waith y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gyda’r holl heriau sydd ynghlwm â chyddwyso ecosystem gymhleth i ddata perthnasol.
Cysylltu Coed Lady Park ag ymchwil coedwigaeth hydredol barhaus Prifysgol Bangor
Elusen yn y Deyrnas Unedig yw’r sy'n cefnogi ac yn cynnal arbrofion ecolegol hirdymor ar draws rhwydwaith o 38 safle ymchwil craidd. O'r safleoedd hynny, mae'n cynhyrchu setiau data cadarn, sy'n seiliedig ar ddegawdau o ddata, i hysbysu cadwraeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Bangor eisoes yn rhan o'r rhwydwaith hwn drwy , arbrawf coedwig hydredol a sefydlwyd yn 2004 yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes dan gyfarwyddyd Andy Smith. Mae BangorDiverse yn ymchwilio i sut mae cyfuniadau o rywogaethau coed yn dylanwadu ar wasanaethau ecosystemau allweddol megis lliniaru llifogydd, rheoleiddio dŵr, a chynhyrchedd biomas.
Mae dod â Choed Lady Park yn rhan o’r rhwydwaith yn ehangu ymchwil coedwigaeth Prifysgol Bangor ac yn atgyfnerthu ei chydweithredu â Phrifysgol Lerpwl. Mae'n ychwanegu safle hirsefydlog at ymchwil barhaus i wytnwch coetiroedd sydd o dan bwysau newid hinsawdd, clefydau coed, a gweithgarwch llysysyddion. Adfyfyriodd Ciaran Gatenby, myfyriwr MSc, ynghylch y gwaith:
Un o uchafbwyntiau’r gwaith maes hwn oedd gweld a chlywed coeden enfawr yn cwympo i’r llawr. Roedd y cyferbyniad rhwng cân yr adar ar ddiwrnod tawel a sŵn gwichian a chlecian enfawr coeden leim aeddfed yn cwympo o’r canopi yn syfrdanol.