Cronfa Bangor yn cefnogi adnoddau newydd am iechyd rhywiol i fyfyrwyr
Mae Cronfa Bangor wedi helpu Undeb Bangor, sef Undeb y Myfyrwyr, gyda'u menter i wella iechyd a lles rhywiol myfyrwyr. Mae adnoddau a chynnwys newydd wedi'u datblygu i sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo'n wybodus, yn cael eu cefnogi, ac yn hyderus yn eu perthnasoedd.
Gan weithio gyda The Sex Education Company, cyflwynodd Undeb Bangor sesiwn holi ac ateb cadarnhaol lle gallai myfyrwyr ofyn cwestiynau'n ddienw ynglŷn â rhyw a pherthnasoedd. Roedd y gofod diogel, di-stigma hwn yn annog deialog agored ac yn tynnu sylw at feysydd allweddol a oedd yn peri pryder, gan gynnwys opsiynau o ran beichiogrwydd. Mewn ymateb, cynhyrchwyd fideo newydd yn ymdrin ag erthyliad a sut i gael mynediad at gefnogaeth, sydd bellach yn rhan o lyfrgell gynyddol o adnoddau addysgol.
Aeth yr ymgyrch hefyd i’r afael â datblygiadau cyfreithiol diweddar ynghylch tagu rhywiol, gan gomisiynu fideo i godi ymwybyddiaeth o’r risgiau a’r oblygiadau cyfreithiol. Roedd fideo arall yn canolbwyntio ar endometriosis, gan gynnig ffeithiau a chyngor wedi'u teilwra i fyfyrwyr, gan gynnwys sut i geisio cefnogaeth yn y Brifysgol.
Tara Hine, the Undeb Bangor’s academic advice and welfare projects coordinator, said, Dywedodd Tara Hine, cydlynydd projectau cyngor academaidd a chyngor lles Undeb Bangor
Rydym yn gwybod bod myfyrwyr eisiau teimlo’n ddiogel, yn wybodus a’u bod yn cael eu parchu yn eu perthnasoedd. Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud â rhoi'r offer iddyn nhw i wneud dewisiadau hyderus, gofyn cwestiynau heb ofn, a chael mynediad at gefnogaeth pan fydd arnyn nhw ei hangen. Mae wedi bod yn anhygoel gweld ymgysylltiad mor gadarnhaol gan fyfyrwyr, gan gadarnhau pa mor bwysig yw'r gwaith hwn. Diolch i gefnogaeth Cronfa Bangor am wneud y gwaith pwysig hwn yn bosibl ac am ein helpu i greu adnoddau sy'n uniaethu â phrofiadau go iawn myfyrwyr.

Mae'r mentrau hyn yn parhau i chwalu stigma, hyrwyddo dewisiadau gwybodus, a chefnogi lles myfyrwyr. Gallwch wylio’r fideos ar dagu rhywiol, dewisiadau o ran beichiogrwydd, ac endometriosis yn , a gwylio’r sesiwn holi ac ateb ynglŷn ag Iechyd Rhywiol ar



Cronfa Bangor
Mae Cronfa Bangor yn cael ei hariannu gan gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr ac yn cael ei gweinyddu gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr.