Mae grant gan Gronfa Bangor, a gynhelir gan gyn-fyfyrwyr ac a weinyddir gan y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, wedi galluogi myfyrwyr yr Ysgol Iaith, Diwylliant a鈥檙 Celfyddydau i gymryd rhan mewn gweithdy llythrennedd bwyd yn Neuadd Reichel.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal dan arweiniad arbenigol Gwasanaethau Arlwyo鈥檙 Brifysgol a鈥檙 Prif Chef Aled Closs-Davies, ochr yn ochr 芒 gweithdy dan arweiniad Cegin Y Bobl, sef sefydliad nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i gynnig addysg drochol ym maes bwyd. Yn ystod y gweithdy, cafodd y myfyrwyr brofiad ymarferol gwerthfawr o wneud bara a pharatoi cawl.
Bu myfyrwyr yn archwilio sut mae ein dewisiadau bwyd yn effeithio鈥檔 sylweddol ar ein hiechyd, ein cymdeithas, a鈥檙 amgylchedd, yn ogystal ag effeithio ar iechyd meddwl a chynaliadwyedd. Roedd y digwyddiad yn pwysleisio bod gan bawb ran i'w chwarae mewn gwneud gwahaniaeth trwy eu dewisiadau bwyd, a daeth i ben gyda thrafodaeth bord gron a ysgogodd sgyrsiau am gynhyrchu bwyd.
Dywedodd drefnydd y digwyddiad, Thora Tenbrink, Athro Ieithyddiaeth a Chyfarwyddwr Astudiaethau 脭l-radd yng Ngholeg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol:
Rwyf wrth fy modd yn gweld cymaint o frwdfrydedd dros bwnc sy鈥檔 cael cymaint o effaith ar ein bywydau mewn sawl ffordd. Roedd y myfyrwyr yn llawn adborth cadarnhaol, gan bwysleisio cymaint yr oeddent wedi gwerthfawrogi'r profiad. Cyfnewidiwyd llawer o syniadau gwych a gwybodaeth ddefnyddiol, nid yn unig trwy Cegin y Bobl ond hefyd rhwng y myfyrwyr, ac awgrymwyd ffyrdd creadigol ymlaen 鈥 gan gynnwys cymdeithas neu glwb bwyd cynaliadwy posib yn y brifysgol.
Dywedodd Freya Swift, intern a ariennir gan y brifysgol ar gyfer project Meithrin Cymunedol yr Ysgol:
Roedd y digwyddiad yn brofiad gwych. Dysgais sgiliau paratoi bwyd gwerthfawr a gwneud cysylltiadau newydd. Mae digwyddiadau fel hyn yn ffordd wych i fyfyrwyr gwrdd 芒 phobl newydd wrth ddysgu sgiliau defnyddiol, yn ogystal 芒 bod o fudd i鈥檙 profiad addysgol.
Dr Elena Hristova, Director of Student Engagement at the School of Arts, Culture and Language, said:
Rydym yn ddiolchgar iawn i Gronfa Bangor a鈥檙 cyn-fyfyrwyr hael am gefnogi menter yr ysgol, sef 鈥楧od 芒 Chymunedau Ynghyd鈥, sy'n creu cysylltiadau ystyrlon rhwng ein myfyrwyr a鈥檔 cymunedau o weithwyr proffesiynol, ymarferwyr ac arbenigwyr.鈥 Mae鈥檔 wych gweld ein myfyrwyr yn ffurfio cymuned yn seiliedig ar frwdfrydedd ar y cyd dros gynaliadwyedd a chreu bwyd moesegol.






