Yn ddiweddar, cyflwynodd Yueng-Djern Lenn, Athro Eigioneg Ffisegol, sgwrs fewnweledol yng Nghyfres Seminarau Nos Lun y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol. Roedd ei chyflwyniad yn archwilio cymysgu Cefnfor yr Arctig, gan bwysleisio ei effaith ar fflycsau gwres sy’n cyfrannu at iâ môr yn toddi a fflycsau maetholion sy’n cynnal cynhyrchiant cynradd.
Diolch i Gronfa Bangor, ariannwyd taith Yueng-Djern, ynghyd â 10 myfyriwr, yn llawn. Dewiswyd y myfyrwyr trwy broses ddethol gystadleuol, a hwyluswyd gan Yueng-Djern ynghyd â Mattias Green (Athro mewn Eigioneg Ffisegol), a Dr Laura Grange (Darllenydd mewn Bioleg Môr), gan sicrhau grŵp amrywiol ar draws lefelau academaidd a rhaglenni gradd.
Roedd y daith yn cynnig cyfuniad gwerthfawr o ddatblygiad academaidd a phroffesiynol. Cyn y seminar, aeth myfyrwyr ar daith o amgylch adeiladau hanesyddol y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, dan arweiniad cyfarwyddwr allgymorth y sefydliad. Roedd y noson hefyd yn cynnwys derbyniad a gynhaliwyd gan Gyfarwyddwr y Gymdeithas, a oedd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gysylltu â chyfoedion, gweithwyr proffesiynol, ac artistiaid.
Wrth adryfyrio ar y profiad, dywedodd Athro Lenn:
Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd yn y digwyddiad, ac yn falch o gynrychioli’r brifysgol. Un canlyniad arbennig o ystyrlon oedd eu gwerthfawrogiad o gyfarfod cyfoedion o wahanol grwpiau blwyddyn, gan feithrin cysylltiadau newydd a gyfoethogodd eu profiad prifysgol. Roeddwn yn arbennig o falch o gynnig y cyfle hwn iddynt, gan ei fod yn eu cyflwyno i fyd proffesiynol gwyddoniaeth mewn ffordd nad oeddent erioed wedi'i phrofi o'r blaen. Roedd hyn yn gwneud y digwyddiad hyd yn oed yn fwy ystyrlon i minnau hefyd.
Diolch i Gronfa Bangor, roedd y digwyddiad hwn yn tanlinellu ymrwymiad Prifysgol Bangor i greu cyfleoedd sy’n y brydoli twf academaidd a phroffesiynol. Roeddwn mor falch ein bod wedi gallu rhoi’r cyfle hwn i’r myfyrwyr.
Gweler yr oriel luniau yma:




