Mae celwydd yn cynyddu ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth, yn 么l astudiaeth newydd
Mae ymchwil gan Byron Hyde, sy鈥檔 athronydd gwyddoniaeth a Chydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, yn edrych ar r么l tryloywder wrth feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwyddoniaeth.
Mae鈥檙 papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn gwyddorau cymdeithasol, , yn dechrau drwy amlinellu'r 鈥渇fenomen ryfedd鈥 sy鈥檔 adnabyddus fel y paradocs tryloywder: sef bod tryloywder yn angenrheidiol i feithrin ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwyddoniaeth, ond, gall bod yn dryloyw yngl欧n 芒 gwyddoniaeth, meddygaeth a llywodraeth hefyd leihau ymddiriedaeth.
Mae Hyde yn dadlau ei bod yn bwysig ystyried beth mae sefydliadau'n bod yn dryloyw yngl欧n ag ef, er mwyn dod o hyd i ateb i'r paradocs hwn.
Yn 么l yr astudiaeth, er bod tryloywder ynghylch newyddion da鈥檔 cynyddu ymddiriedaeth, mae tryloywder ynghylch newyddion drwg, megis gwrthdaro buddiannau neu arbrofion aflwyddiannus, yn lleihau ymddiriedaeth.
Felly, mae dweud celwydd yn un ateb posibl i'r paradocs, ac yn ffordd o gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd, er enghraifft trwy sicrhau bod newyddion drwg yn cael ei guddio, ac mai dim ond newyddion da sy鈥檔 cael ei adrodd. Mae Hyde yn nodi, fodd bynnag, bod hyn yn anfoesegol, ac yn anghynaladwy yn y pen draw.
Yn hytrach, mae'n awgrymu y byddai mynd i'r afael ag achos gwreiddiol y broblem, sef bod y cyhoedd yn gor-delfrydoli gwyddoniaeth, yn well ffordd ymlaen. Mae pobl yn dal i gredu'n daer yn y ddelwedd boblogaidd o wyddonydd nad yw'n gwneud unrhyw gamgymeriadau, ac mae hynny鈥檔 creu disgwyliadau afrealistig.
Mae Hyde yn galw am ymdrech o鈥檙 newydd i addysgu鈥檙 cyhoedd am normau gwyddonol drwy addysg a chyfathrebu gwyddoniaeth er mwyn dileu鈥檙 farn 鈥渘a茂f鈥 bod gwyddoniaeth yn rhywbeth anffaeledig.
Dywedodd Byron Hyde, sy鈥檔 Gydymaith Ymchwil er Anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor, 鈥淢ae gwyddonwyr ac arweinwyr y llywodraeth yn gwybod bod ymddiriedaeth y cyhoedd mewn gwyddoniaeth yn bwysig oherwydd ei bod yn galluogi penderfyniadau gwybodus, yn arwain polisi cyhoeddus, ac yn cefnogi gweithredu ar y cyd ar faterion hollbwysig, megis iechyd, hinsawdd a thechnoleg. Os na ellir ymddiried mewn gwyddoniaeth, mae cymdeithas yn dod yn fwy agored i gamwybodaeth ac yn llai abl i ymateb yn effeithiol i heriau cymhleth megis pandemigau. Er y tybir yn aml bod tryloywder yn cynyddu ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth, rwy'n dadlau y gall tryloywder leihau鈥檙 ymddiriedaeth honno.
"Y gwir yw nad yw gwyddoniaeth yn berffaith. Mae gwyddonwyr yr un mor rhagfarnllyd ac yr un mor agored i wneud camgymeriadau 芒 phawb arall. Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod gwyddoniaeth, a dylai fod gwyddoniaeth, yn llawer gwell nag y mae, neu sy鈥檔 bosib iddi fod. Rwy鈥檔 dadlau bod pobl yn colli ymddiriedaeth mewn gwyddoniaeth pan nad yw'n cyd-fynd 芒'u disgwyliadau. Mae hyn yn golygu nad yw pobl yn ymddiried mewn gwyddoniaeth sy'n annibynadwy ond, os yw eu disgwyliadau'n rhy uchel, mae hefyd yn golygu nad ydynt yn ymddiried mewn gwyddoniaeth sy'n amherffaith ond sy鈥檔 ddibynadwy o hyd.鈥
Mae yn dweud mai'r broblem yw, er bod ffeithiau gwyddonol yn cael eu haddysgu yn yr ysgol, nad yw ffeithiau "am" wyddoniaeth yn cael eu haddysgu'n ddigon da. Ychwanegodd, 鈥淓r enghraifft, mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn deall bod tymereddau byd-eang yn codi, ond ychydig iawn o bobl sy鈥檔 deall sut rydym yn gwybod hynny. Nid oes digon o bobl yn gwybod bod gwyddoniaeth yn 'dod i鈥檙 casgliad sydd 芒鈥檙 esboniad gorau' ac nad yw'n 'profi' unrhyw beth yn derfynol. Mae gormod o bobl yn meddwl y dylai gwyddonwyr fod yn rhydd o ragfarnau neu wrthdaro buddiannau pan, mewn gwirionedd, nid yw鈥檙 naill na鈥檙 llall yn bosibl. Os ydym eisiau i'r cyhoedd ymddiried mewn gwyddoniaeth i'r graddau y mae'n ddibynadwy, mae angen i ni sicrhau eu bod yn ei deall yn gyntaf.鈥