Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Pam rydym ni'n tynnu'r llinell rhwng cyfiawnder a chreulondeb, tosturi ac anystyrioldeb, iawn ac anghywir? Pwy sy’n penderfynu ble mae’r llinell honno, a pham?
Cwrs byr yw hwn sy’n archwilio i ddyfnderoedd athroniaeth foesol, seicoleg ddynol a normau diwylliannol. Yn hytrach na chanolbwyntio ar weledigaethau delfrydol o foesoldeb, mae’r cwrs hwn yn wynebu’r cwestiynau moesol rydyn ni’n aml yn eu hosgoi, y rhai anghyfforddus, y rhai dadleuol, a’r rhai sy’n llawn amwysedd moesol.
O statws moesol llofruddion cyfresol i foeseg bwyta ein hanifeiliaid anwes, o gyfrifoldeb tu ôl i hil-laddiadau i rôl y Gorllewin mewn cynnal anghydraddoldeb byd-eang, byddwch yn archwilio’r heriau moesol anoddaf o’n hoes.
Nid yw’r cwrs hwn yn ymwneud ag esmwythder. Mae’n ymwneud â eglurder, dewrder a chymhlethdod. Drwy ddadl, astudiaethau achos, ac analysis athronyddol, byddwn yn archwilio’r gwrthddywediadau moesol sy’n siapio’n cymdeithasau ac yn datgelu gwirioneddau anghyfforddus amdanon ni ein hunain.
Dyddiadau ac amseroedd y cwrs
Mae'r amser yr un peth ar gyfer pob un o'r dyddiadau, 6.00YP - 8.00YP
- 29 Medi
- 6 Hydref
- 13 Hydref
- 20 Hydref
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn gallu:
• Deall sut mae fframweithiau moesegol yn berthnasol i ddilemmâu moesol bywyd go iawn.
• Dadansoddi a beirniadu dadleuon am gyfrifoldeb moesol a chyd-euogrwydd.
• Archwilio ffactorau diwylliannol a seicolegol sy’n dylanwadu ar farn foesol.
• Gwerthuso goblygiadau moesegol arferion bob dydd (e.e., bwyta anifeiliaid).
• Myfyrio ar eu greddfau moesol a’u tueddiadau eu hunain.
Modiwlau / Trosolwg Wythnosol
Modiwl 1 / Wythnos 1: Beth sy’n Gwneud Bod yn Foesol Amhrisiadwy?
- Cwestiwn Allweddol: A oes gan lofruddion cyfresol statws moesol?
- Archwilio’r cysyniad athronyddol o statws moesol
- Ystyried personoliaeth, empathi a gwerth moesol
- Astudiaethau achos: Ted Bundy, Anders Breivik, ac eraill
Modiwl 2 / Wythnos 2: Troseddau’r Llu – Pwy Sy’n Euog?
- Cwestiwn Allweddol: Pwy sy’n dwyn cyfrifoldeb am hil-laddiad a glanhau ethnig?
- Archwilio damcaniaethau cyd-euogrwydd, cymhlethdod, a chyfrifoldeb
- Archwilio cyfiawnder ar ôl yr Ail Ryfel Byd (Treialon Nuremberg), hil-laddiad Rwanda, a chreulondebau cyfoe
- Dadlau cyfrifoldeb unigol vs gyfrifoldeb systemig
Modiwl 3 / Wythnos 3: Moeseg y Bwytadwy
- Cwestiwn Allweddol: Ydy bwyta anifeiliaid anwes yn fwy anghywir na bwyta anifeiliaid fferm?
- Cymharu normau diwylliannol ynghylch bwyd, anifeiliaid anwes, ac anifeiliaid eraill
- Dadansoddi cysondeb moesegol a rhywogaethiaeth (Peter Singer, ayb.)
- Trafodaeth: Pe na fyddech yn bwyta’ch ci, pam bwyta buwch?
Modiwl 4: Tlodi Byd-eang a Baich Moesol Breintiau
- Cwestiwn Allweddol: A yw’r Gorllewin yn euog yn foesol am dlodi ac anghydraddoldeb byd-eang?
- Archwilio trefedigaethiaeth, cyfalafiaeth, a phatrymau annhegwch strwythurol
- Dadlau rhwymedigaeth foesol vs achosion hanesyddol
Cost y Cwrs
Does dim cost i'r cwrs.
Gwneud Cais
I gofrestru ar gyfer y cwrs hwn, cliciwch ar y ddolen: