Hanes cenedlaetholdeb wleidyddol yng Nghymru c. 1925-2025 (cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg)
Sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru (bellach Plaid Cymru) yn haf 1925, gan roi gwedd newydd i genedlaetholdeb wleidyddol yng Nghymru. Wrth iddi droi’n 100 oed, bydd y cwrs hanner diwrnod cyfrwng Cymraeg yma’n cyflwyno blas beirniadol o’i hanes, ac yn gosod hynny o fewn cyd-destun mathau eraill o genedlaetholdeb yng Nghymru.
Cynhelir sesiynau gan ddarlithwyr Hanes, Crefydd a Chymraeg o Brifysgol Bangor, cyn troi at gyfweliad hanes llafar swmpus i gloi y diwrnod. Bydd hon yn sgwrs rhwng y gohebydd profiadol Nia Thomas a Ieuan Wyn Jones, Dirprwy-Brif Weinidog Cymru (2007-2011) ac arweinydd Plaid Cymru ( 2000-2012), sydd bellach yn ymchwilydd doethurol ym Mhrifysgol Bangor. Bydd yn olrhain ei yrfa wleidyddol o’r 1970au ymlaen, gan adlewyrchu ar yr heriau a’r cyfleoedd a wynebodd ef, Plaid Cymru a Chymru yn ystod y cyfnod.
Beth i’w ddisgwyl?
- Amlinelliad o hanes cenedlaetholdeb wleidyddol yng Nghymru gan Dr Mari Elin Wiliam.
- Sesiynau thematig ar bynciau megis heddychiaeth a cerddoriaeth/barddoniaeth genedlaetholgar gan Dr Gareth Evans-Jones a Dr Marged Tudur.
- Hanes llafar: cyfweliad rhwng y gohebydd Nia Thomas a Ieuan Wyn Jones.
Ar gyfer pwy?
- Unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Cymru a’i gwleidyddiaeth.