Ymunwch â ni am noson ysbrydoledig wrth inni archwilio a myfyrio ar Dirluniau Beiblaidd Gwynedd a Chymru mewn cynhadledd a gynhelir yn y Neuadd PJ gain ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r digwyddiad unigryw hwn, a drefnir ar y cyd gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru a’r Sefydliad Astudio Ystadau Cymreig (ISWE), yn dod ag ysgolheigion, artistiaid, cerddorion a’r cyhoedd ynghyd i archwilio’r cysylltiadau dwfn rhwng y Beibl, y dirwedd, hunaniaeth a diwylliant Cymru.
Bydd y noson yn dechrau gydag arddangosfa gan Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yng Nghoridor Siambr y Cyngor o 17:30, ac yna croeso gan Dr Gareth Evans-Jones ac Alex Ioannou, ynghyd ag eitem cerddorol organ yn Neuadd PJ am 18:00.
Ceir wedyn drafodaethau hynod ddiddorol gan Dr Martin Crampin (CAWCS) a’r Athro Angharad Price.
Yn ystod y derbyniad, bydd arddangosfa yn cynnwys prosiect Enwau Lleoedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol Eryri, yr Eglwys yng Nghymru, Palas Print, CAWCS, a rhagor. Bydd eitemau cerddorol dan arweiniad a chyflwyniad Joe Cooper (Prifysgol Bangor a Chadeirlan Deiniol Sant), yn cynnwys perfformiadau corawl ysbrydoledig ar themâu tirluniau Cristnogol Cymru. Bydd y noson yn dod i ben gyda pherfformiadau barddonol ysgogol gan y beirdd arobryn, Siôn Aled a Siân Northey, a ysbrydolwyd gan Lwybr Pererinion Cadfan.
Croeso cynnes i bawb – mynediad am ddim.
Trefnir gan Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru