Ymunwch â ni am ddiwrnod o Go-Cartio yn Apex Kart yng Nghaer.
Nid oes angen i chi fod yn yrrwr rasio proffesiynol i fwynhau digwyddiad rasio wedi'i drefnu'n broffesiynol o sedd y gyrrwr. Mae'r ‘Elite Grand Prix’ yn Apex Kart yn un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd sy’n sicrhau oriau o gartio llawn cystadlu a hwyl! Yn cynnwys rasys ymarfer, rhagbrofion sgorio pwyntiau, rownd gynderfynol, a rownd derfynol, mae’r Elite Grand Prix yn Apex Kart yn addo profiad bythgofiadwy. Bydd hwn yn gyfle perffaith i ddod i adnabod myfyrwyr eraill yn yr ysgol cyn i'r addysgu ddechrau wythnos nesaf!
(Codir tâl bychan o £15 i fynychu).