Ymunwch â ni am noson o ffilmiau byrion a sgyrsiau gyda’r adran Ffilm, y Cyfryngau a Newyddiaduraeth. Mae cyfle i wylio gwaith a grëwyd gan ein myfyrwyr o fodiwlau penodol y byddwch chi'n eu dilyn yn ystod eich amser ar y cwrs, yn ogystal â chlywed gan ein staff sut mae cydweithio'n ymestyn y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Er bod hwn yn gyfle arbennig i weld gwaith creadigol anhygoel ein myfyrwyr a'n staff, mae hefyd yn ffordd wych o gysylltu â'ch cymuned prifysgol newydd.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am leoliad yr adeilad a'r ystafell ar Fap y Campws