Sesiwn galw heibio gydag Ymgynghorwyr o'r Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant.
Os oedd unrhyw addasiadau wedi’u gwneud i chi yn yr ysgol neu'r coleg (e.e. amser ychwanegol mewn arholiadau, neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal) gallwn eich helpu i drefnu eich addasiadau rhesymol yn y brifysgol. Cofrestrwch gyda'r Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Yn ystod y sesiwn galw heibio, gallwn ateb cwestiynau am:
- Y Ffurflen Gofrestru Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
- Tystiolaeth ategol.
- Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
- Cwestiynau eraill sy'n ymwneud ag anabledd.
Bydd un o’n hymgynghorwyr arbenigol ar gael i weld ein myfyrwyr ar sail y cyntaf i'r felin, gan gynnwys.:
- Ymgynghorwyr Gwahaniaethau Dysgu Penodol ar gyfer Dyslecsia / Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac ati,
- Ymgynghorwyr Iechyd Meddwl ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl,
- Ymgynghorwyr Anabledd ar gyfer awtistiaeth, nam ar y synhwyrau, cyflyrau iechyd hirdymor a gofynion symudedd ac ati.
E-bostiwch disabilityservice@bangor.ac.uk am fwy o wybodaeth.
Cliciwch yma i weld gwybodaeth am leoliad yr adeilad a’r ystafell ar fap y campws.