Rhaglen Diwrnod Agored Rhithiol, Dydd Mercher, 01 Hydref 2025
Mynychwch ein sgyrsiau byw mewn pob pwnc academaidd i ddarganfod mwy am y cwrs/cyrsiau rydych gyda diddordeb ynddynt, a pham mai Bangor yw’r dewis iawn i chi. Bydd staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich dewis cwrs.
Ymunwch â’n Tîm Rhyngwladol am sgwrs fyw lle gallwch ddysgu mwy am astudio ym Mangor. Bydd staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a dweud mwy wrthych am astudio ym Mangor fel myfyriwr Rhyngwladol/myfyriwr o’r Undeb Ewropeaidd.
Mynychwch y sgwrs fyw hon i ddysgu mwy am fywyd myfyriwr, Undeb y Myfyrwyr a chwaraeon ym Mangor. Bydd staff a myfyrwyr wrth law i drafod pob agwedd o fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Gallwch hefyd gael teimlad o’r campws a sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yma.
Mynychwch y sgwrs fyw hon i ddysgu mwy am astudio trwy’r Gymraeg a bywyd myfyriwr ym Mangor. Bydd staff a myfyrwyr wrth law i drafod pob agwedd o fywyd fel myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Gallwch hefyd gael teimlad o’r campws a sut brofiad yw bod yn fyfyriwr yma.
Mynychwch y sgwrs fyw hon i ddysgu mwy am lety ym Mangor. Bydd staff wrth law i ddweud mwy wrthych am fyw mewn llety myfyrwyr ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am fyw mewn llety Prifysgol.