Ïã½¶ÊÓÆµAPP

Fy ngwlad:

Graddio 2025

Gwyliwch y seremonïau Graddio yn fyw

#GraddioBangor: dyddiadau seremoniau, amserlen a gwybodaeth allweddol

Bydd y dolenni hyn yn fyw 10 Mawrth

Mae angen i'r holl fyfyrwyr sydd â hawl i ddod i'r Seremonïau Graddio roi gwybod i ni erbyn  4 Ebrill 2025 a fyddant yn dod i'r seremoni neu beidio. Dilynnwch y bwtwm 'Cofrestru Yma' (uchod)) o  10 Mawrth 2025 ymlaen er mwyn cofrestru.

Ni chaniateir i fyfyrwyr fynychu'r seremoni os nad ydynt wedi cofrestru eu presenoldeb erbyn 4 Ebrill 2025

Ar y diwrnod:

 Mae'r holl Seremonïau'n cael eu dangos yn fyw ar wefan y Brifysgol felly gellir eu gwylio'n fyw.

Dylai myfyrwyr  gyrraedd y Prif Ddarlithfa'r Celfyddydau o leiaf 90 munud cyn ddechrau'r seremoni i gofrestru eu presenoldeb,

Mae mynediad i'r seremoni ar gyfer pob gwestai DRWY DOCYN YN UNIG Nid oes ar fyfyrwyr angen tocyn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn hoffi dod â ffrindiau a theulu gyda nhw i'w seremoni raddio. Gan fod nifer y seddi yn Neuadd Prichard-Jones yn gyfyngedig, ni allwn warantu ond DAU DOCYN GWESTAI i bob myfyriwr os ydych yn archebu erbyn 4 Ebrill 2025

Gallwch archebu tocynnau ar-lein drwy'r ddolen yn yr ebost

Os methwch â phrynu'ch tocynnau gwesteion erbyn 4 Ebrill 2025  ni allwn warantu y bydd eich gwesteion yn gallu bod yn bresennol yn y seremoni.

Os daw unrhyw docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer unrhyw rai o'r seremonïau, caiff y rhain Ar-lein  9 Mehefin drwy ddilyn y ddolen wreiddiol a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru eich presenoldeb. Bydd y tocynnau'n am ddim yr un a chyfyngir hwy i ddau docyn ychwanegol i westeion i bob myfyriwr. Os bydd tocynnau ychwanegol ar gael fe'u gwerthir ar sail y cyntaf i’r felin.

 

Dim ond ar-lein y gellir archebu tocynnau

I anfonir y tocynnau atoch trwy’r post, byddant ar gael i’w casglu ar ddiwrnod eich seremoni o Brif Ddarlithfa’r Celfyddydau.

Casglu Tocynnau

Bydd holl docynnau gwesteion ar gael i’w casglu wrth y ddesg cofrestru myfyrwyr ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.

Mae'n rhaid i docynnau gael eu casglu o leiaf 30 munud cyn dechrau'r seremoni.

Ym Mhrifysgol Bangor mae graddio'n achlysur teuluol ac mae croeso i blant ddod i'r seremoni.  Fodd bynnag, mae'n rhaid i oedolyn fod efo nhw. Mae'r seremonïau’n para oddeutu 90 munud ac rydym wedi gweld trwy brofiad bod plant yn diflasu a mynd yn aflonydd; felly nid ydynt yn addas i blant ifanc iawn.  O ran parch at westeion eraill rydym yn gofyn am i blant gael eu hebrwng allan o'r neuadd os byddant yn mynd yn aflonydd yn ystod y seremoni rhag iddynt darfu ar y digwyddiadau a mwynhad gwesteion eraill.

Rhaid i blant dan 3 oed (dim mwy na dau i bob myfyriwr) eistedd ar lin oedolyn ac nid ar sedd.  Nid oes angen tocyn arnynt. Rhaid i blant 3 oed a hÅ·n gael tocyn  i westeion i gael mynd i'r seremoni.Os ydych yn dod â babi sy'n dal mewn pram neu goets fach i'r seremoni, a fyddech cystal â nodi hynny pan fyddwch yn prynu eich tocynnau.  Gofynnir i chi p'un a ydyw unrhyw rai o'ch gwesteion angen unrhyw drefniadau arbennig. Ein cyngor yw i blant wylio'r seremoni o Brif Ddarlithfa'r Celfyddydau, lle nad oes angen tocynnau.

Gwesteion ychwanegol:

Mae croeso i chi ddod â gwesteion ychwanegol a gallant wylio’r seremoni a ddarlledir ar sgrin fawr mewn darlithfa gerllaw - nid oes angen tocynnau ar gyfer hyn.

 

Mae graddio yn achlysur ffurfiol ac mae gofyn i fyfyrwyr wisgo gwisg academaidd.

Mae'r wisg yn cael ei harchebu drwy Ede and Ravenscroft fan yma o 10 Mawrth 2025  ymlaen . Dyddiad cau i archebu ar-lein yw 20 Mehefin 2025

Mae'r dyddiadau ar gyfer Seremoniau y Gaeaf wedi'u cadarnhau fel 7 - 11 Gorffennaf  2025

Bydd Myfyrwyr rhyngwladol sydd angen llythyr fisa ar gyfer eu gwesteion yn gallu trefnu hyn wrth archebu tocynnau gwestai ar lein ym mis Mawrth.

Diwrnod 

Dyddiad 

                               Ysgol 

Llun 

7 Gorffennaf 

 

10.00 am 

Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau 

Ysgol Y Gymraeg 

 

Addysg 

(graddau israddedig) 

2.30 pm 

Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas  

(graddau ôl-raddedig ac ymchwil) 

 

Cyfrifiadureg a Pheirianneg 

(graddau israddedig) 

Mawrth 

8 Gorffennaf 

 

10.00 am 

Gwyddorau Iechyd 

 

2.30 pm 

Hanes, Y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas  

(graddau israddedig) 

Mercher 

9 Gorffennaf 

 

10.00 am 

Ysgol Busnes Bangor 

2.30 pm 

Ysgol Busnes Bangor 

Iau 

10 Gorffennaf 

 

10.00 am 

Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon 

(graddau israddedig) 

 

Ysgol Feddygol Gogledd Cymru 

2.30 pm 

Gwyddorau Eigion  

 

Addysg 

(graddau ôl-raddedig ac ymchwil) 

 

Gwener 

11 Gorffennaf 

 

10.00 am 

Cyfrifiadureg a Pheirianneg 

(graddau ôl-raddedig ac ymchwil) 

 

Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon   

(graddau ôl-raddedig ac ymchwil) 

 

Gwyddorau  Amgylcheddol Naturiol 

10 

2.30 pm 

Gwyddorau  Amgylcheddol Naturiol 

 

 

 

Cyfle i longyfarch ein Graddedigion a rhannu eich dathliadau Graddio.

Defnyddiwch #GraddioBangor a #PrifysgolBangor ar Instagram neu Twitter - gall ymddangos yma.

A group of students throwing their caps in their air after their graduation ceremony

Cwestiynau Cyffredin

Dewch o hyd i atebion am yr holl gwestiynau cyffredin ynglŷn â'n seremonïau graddio.

A group of female students in taking a selfie on their graduation day

WEDI I CHI RADDIO

Wedi i chi raddio byddwch yn aelod o'n cymuned alumni am byth. Bydd ein Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yn cadw mewn cysylltiad â'n holl alumni wedi i chi raddio fel ein bod yn gallu eich diweddaru ar ddatblygiadau'r Brifysgol a rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau penodol ar gyfer ein alumni.

Arolwg Hynt Graddedigion

Ar ôl i chi raddio o Brifysgol Bangor, byddwch yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf y Deyrnas Unedig – yr 15 mis ar ôl i'ch cwrs ddod i ben.

Wedi'i lansio yn 2018, mae'r arolwg cenedlaethol hwn yn casglu mewnwelediadau i gyrchfannau a phrofiadau graddedigion.

Mae eich ymateb yn helpu myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ac yn caniatáu inni werthuso a hyrwyddo ein cyrsiau. Mae'r arolwg yn cymryd 10 munud i'w gwblhau ar-lein ac mae ar gael ar unrhyw ddyfais.

Sicrhau bod eich manylion cyswllt yn gywir

Mae angen i'r brifysgol gadw manylion cyswllt personol cyfredol er mwyn i'r tîm Canlyniadau Graddedigion allu cysylltu â chi gyda’r arolwg. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi rhannu’r canlynol gyda ni:

  • Cyfeiriad e-bost personol
  • O leiaf un rhif ffôn uniongyrchol
  • Cyfeiriad post cartref (gall hwn fod yn gyfeiriad rhiant/gwarcheidwad)

diweddaru eich manylion cyswllt

Bydd yr arolwg yn cael ei gyflwyno gan y tîm Canlyniadau Graddedigion sy'n rhan o'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar ran y cyrff ariannu a rheoleiddio addysg uwch a darparwyr addysg uwch. Mae'r cyrff ariannu a rheoleiddio’n comisiynu'r arolwg Canlyniadau Graddedigion ac yn ei gwneud yn ofynnol i HESA a darparwyr addysg uwch gydweithio i gyflawni'r arolwg. Mae HESA wedi cyhoeddi gwybodaeth preifatrwydd i fyfyrwyr ynghylch sut y bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio.  

Unrhyw ymholiad?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon e-bost atom neu gallwch ymweld â .

Cysylltu â ni 

Logo Arolwg Hynt Graddedigion

Newyddion Graddio

Grŵp o ferched yn gwenu i'r camera yn ystod diwrnod graddio

Lluniau Grŵp Graddio 2024

Mae Lluniau Grŵp - Seremonïau Graddio Haf 2024 nawr ar gael i chi eu gweld a’u prynu drwy ddolen Ede & Ravenscroft isod:

Memorabilia

Archebwch eich dillad graddio a rhoddion swyddogol!

Dau raddedigion yn gwysgo swimper graddio class of 2025 Prifysgol Bangor, gyda tedi a mwg ar waelod y llun

Rwyt ti wedi cael y radd, dim ond prynu'r crys-t sydd ei angen! Rydym wedi ymuno â Campus Clothing i ddarparu ystod unigryw o nwyddau i'n graddedigion. Bydd nwyddau ar gael ar y diwrnod yn ein seremonïau graddio, a gellir hefyd eu harchebu ymlaen llaw trwy ein  O hwdis a chrysau-t moethus gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn, i fygiau, tedis graddio, a bathodynnau pin. Dewiswch rywbeth arbennig i'w gadw i gofio am eich amser ym Mhrifysgol Bangor.

Ymweld â stondin fflach Campus Clothing ar eich diwrnod graddio

Dewch i ymweld â stondin fflach Campus Clothing yn eich seremoni raddio, lle bydd detholiad o nwyddau graddio ar gael i'w prynu. Bydd yr holl stoc ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gallwch hefyd archebu eitemau yr hoffech eu personoli yn y digwyddiad, a byddant yn cael eu postio i'ch cyfeiriad cartref, ledled y byd!

Archebu nwyddau graddio personol ar-lein i'w danfon i’ch cartref

Porwch drwy’r ystod lawn o nwyddau graddio Prifysgol Bangor yn . Yma, gallwch archebu a phersonoli nwyddau graddio i'w gwneud yn gwbl unigryw i chi. Gall archebion a osodir ar-lein gael eu danfon ledled y byd, felly peidiwch â phoeni os na allwch gyrraedd eich seremoni raddio.

Wedi methu eich diwrnod graddio?

Peidiwch â phoeni, mae hwdis a chrysau-t gydag enwau graddedigion wedi'u hargraffu ar y cefn yn dal i fod ar gael i holl raddedigion y gorffennol trwy ein .

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Cysylltwch â ni

Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG