Darpar-feddygon yn dysgu Cymraeg fel sgíl glinigol
Yn ddiweddar, canmolwyd carfan lawn gyntaf Prifysgol Bangor o fyfyrwyr meddygol, sy'n agosáu at ddiwedd blwyddyn gyntaf eu hastudiaethau yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, am eu hymdrechion i ddysgu Cymraeg ac ymgysylltu â'r cyd-destun ieithyddol y byddan nhw’n gweithio ynddo.
Datblygwyd y cwrs peilot ‘Mwy na Geiriau - y Gymraeg fel sgil glinigol’ gan diwtoriaid arbenigol ac arweinwyr polisi yng Nghanolfan Bedwyr, Canolfan Gwasanaethau, Ymchwil a Thechnoleg y Brifysgol, mewn cydweithrediad â staff clinigol a staff cymorth yn yr Ysgol Feddygol ac o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyflwynwyd y cwrs ar lefelau Blasu, Canolradd a Hyfedredd i gefnogi polisi ‘Mwy na geiriau’ Llywodraeth Cymru wrth ymgorffori’r iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal â gwersi iaith, darparwyd hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i’r myfyrwyr, er mwyn rhoi dealltwriaeth lawn iddynt o’r dirwedd ieithyddol y byddan nhw’n gweithio ynddi.
Ar y modiwl, bu’r myfyrwyr meddygol yn datblygu geirfa ac ymadroddion penodol i faes meddygaeth dros ddau semester o sesiynau wythnosol – gan eu paratoi i weithio mewn rhanbarth lle mae’r iaith Gymraeg yn cael ei siarad gan nifer sylweddol o drigolion, yn aml fel iaith gyntaf. Roedd y cwrs hefyd yn cynnwys siaradwyr gwadd, megis staff clinigol a staff cymorth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; a staff o wasanaethau brys rheng flaen eraill y rhanbarth – Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Rhoddwyd pwyslais arbennig ar weithio gyda phlant ifanc iawn, nad ydynt eto'n gwbl ddwyieithog; a chleifion oedrannus, y gall mynegi teimladau ac emosiynau cymhleth mewn ail iaith fod yn anodd iddynt, yn enwedig wrth gyplysu hynny â phresenoldeb cyflyrau fel dementia a chlefyd Alzheimer.
Yna, roedd cyfleoedd i'r myfyrwyr roi eu sgiliau ar waith yn y byd go iawn, yn ystod eu lleoliadau cyntaf mewn meddygfeydd teulu a chyfleusterau tebyg eraill yn y rhanbarth.
Un o'r myfyrwyr hynny oedd Mustafa Al-Bazooni, o Fanceinion, a fu ar leoliad gwaith mewn meddygfa ym Mhenrhyndeudraeth. Dywedodd, “Mae’r cwrs wedi rhoi cymaint o brofiad i mi o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg – mae wedi bod yn anhygoel. Mae’n mynd i fy helpu i greu amgylchedd mwy cyfforddus i gleifion. Hyd yn oed os mai dim ond drwy ddweud ‘ti’n iawn?’ neu ‘bore da’, mi fydd yn mynd yn bell i wella ein sgiliau cyfathrebu efo nhw.”
Mae myfyriwr arall, Enlli Pritchard, o Waunfawr yn siaradwr Cymraeg ac yn dilyn ffrwd Hyfedredd y modiwl, lle rhoddwyd pwyslais ar ddatblygu'r Gymraeg i'w defnyddio mewn cyd-destun meddygol proffesiynol. Dywedodd, “Mae wedi cynyddu fy hyder yn fy nefnydd o Gymraeg ‘proffesiynol’ ac rydw i wedi gallu rhoi fy sgiliau ar waith ar unwaith. Mi weithiais ar brosiect yn ddiweddar lle roedden ni’n diolch i deuluoedd lleol am roi cyrff eu hanwyliaid at ddefnydd ymchwil meddygol ac mi oedd gallu defnyddio iaith briodol a sensitif - yn y Gymraeg - yn gwneud y profiad yn un dwysach i ni gyd.”
Derbyniodd Mustafa ac Enlli ill dau gydnabyddiaeth arbennig gan eu tiwtoriaid am eu hagwedd bositif a’u hymroddiad dros y ddau semester.
Yn ôl Dr Phil Davies, Tiwtor Sgiliau Iaith Uwch yng Nghanolfan Bedwyr a chydlynydd y modiwl, bu cael carfan newydd o fyfyrwyr ar raglen astudio newydd, yn gyfle i ddatblygu cwrs newydd ac unigryw. Dywedodd Dr Davies, “Roedden ni’n awyddus i’r cwrs fod yn gyflwyniad ystyrlon i’r iaith, i fod yn ‘fwy na geiriau’. Roedd dysgu geiriau ac ymadroddion defnyddiol iddyn nhw eu defnyddio fel clinigwyr gyda chleifion Cymraeg eu hiaith, ochr yn ochr â sesiynau ymwybyddiaeth iaith, yn ein harwain at un o egwyddorion craidd meddygaeth – deall, gyda pharch, pwy yw’r bobl y maen nhw’n eu trin.”
Yn cyflwyno tystysgrifau i’r myfyrwyr oedd Dr Nia Jones, Deon Meddygaeth yr Ysgol Feddygol. Meddai: “Fel meddyg sy’n siarad Cymraeg fy hun, rwy’n gweld pwysigrwydd ymgorffori’r iaith a’r diwylliant Cymraeg yn y rhaglen feddygol. Mewn digwyddiad Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd yn ddiweddar, er enghraifft, nododd adborth y mynychwyr eu bod yn awyddus i ymarferwyr meddygol ddeall eu hunaniaeth fel cleifion sy’n siarad Cymraeg. Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i’n myfyrwyr meddygol ddeall y cleifion y maen nhw’n eu hwynebu a’u paratoi ymhellach i weithio mewn cyd-destunau dwyieithog.”
Yn dilyn adborth cadarnhaol y myfyrwyr a gwerthusiad llwyddiannus gan staff, bydd ‘Mwy na Geiriau – y Gymraeg fel sgil glinigol’ yn cael ei gyflwyno i bob myfyriwr meddygol blwyddyn gyntaf sydd wedi cofrestru ar gyrsiau meddygaeth yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru o fis Medi 2025 ymlaen.