
Emilie Hutet
MA Astudiaethau Cyfieithu, 2024

鈥淢ae dwy ran i fy mywyd ym Mangor ers imi ddarganfod y ddinas hudolus hon am y tro cyntaf yn 2022 fel myfyriwr BA ar raglen gyfnewid Erasmus. Gadewais Brest, y ddinas lle b没m yn astudio, a deuthum i Fangor. Er na wyddwn i hynny ar y pryd, byddwn yn creu rhai o fy atgofion gorau ac yn cwrdd 芒 rhai o fy ffrindiau anwylaf. Dim ond am semester y parhaodd hynny ond roedd yn fwy na digon imi chwennych mwy, ac arweiniodd hynny imi wneud cais i Brifysgol Bangor i ddychwelyd i'r byd hwn fel myfyriwr 么l-radd swyddogol ym Mangor yn 2023.
Cyn s么n am bwnc fy astudiaethau, gadewch imi ddweud ychydig wrthych chi am fy mywyd personol. Ffrances ydw i ac rwy'n byw mewn dinas hyfryd yn yr Almaen o'r enw Jena. Ond pan fyddaf yn dychwelyd adref at fy rhieni yn Ffrainc, gall pobl ddod o hyd imi mewn pentref bach ger Brest mewn rhan wyllt o Lydaw. Rwy'n ddynes a chanddi lawer iawn o hob茂au. Er enghraifft, rwyf yn mwynhau chwarae gemau fideo (dwi'n bendant yn 'geek' ac yn 'nerd'), heicio, coginio, chwarae'r git芒r, codi pwysau, canu mewn karaoke, mynd i gyngherddau a gwyliau Metal. Rydw i hefyd yn hoff iawn o seryddiaeth, ieithoedd a that诺s. Yn gryno, rwy'n fyfyriwr AuDHD chwilfrydig, allblyg, hamddenol, doniol (yn 么l fy ffrindiau).
Cymerais ran yn y cwrs MA Astudiaethau Cyfieithu, a graddiais gyda Rhagoriaeth yn 2024. Ar yr MA cefais bopeth roeddwn i eisiau a phopeth na wyddwn fy mod i'n ysu amdano. Oherwydd yr athrawon cyfeillgar a brwd byddwn i鈥檔 edrych ymlaen at y dosbarth nesaf. Mae gweithgareddau ysgogol a heriol yn cynnal fy mrwdfrydedd dros gyfranogi ac yn fy nhynnu i allan o鈥檙 hyn sy鈥檔 gyfforddus imi, ac mi lwyddodd yr athrawon i wneud hynny. O theori i ymarfer, cefais fy swyno. Yn ystod y flwyddyn, cawsom gyfle i gyfnewid gyda gweithwyr proffesiynol o wahanol gefndiroedd a gwahanol feysydd arbenigol (barddoniaeth, cyfieithu ar y pryd), gan ddangos inni鈥檙 hyn sy'n digwydd y tu 么l i'r llenni a chynnig cyngor fel arbenigwyr iaith i dyfu a datblygu sgiliau. Er mai dim ond pedwar myfyriwr oedden ni ar y rhaglen eleni, roedd yn gyfle gwych i siarad 芒'n gilydd a deall safbwyntiau newydd yngl欧n 芒鈥檙 byd gan ein bod ni'n cynrychioli Cymru, Moroco, Libya a Ffrainc.
Oherwydd fy mywyd deublyg ym Mangor cefais gyfle i fyw bywyd gwahanol a mwynhau'r ddau brofiad. Roedd fy semester fel myfyriwr cyfnewid Erasmus yn llawn nosweithiau a dreuliais yn Bar Uno, yn enwedig nosweithiau Karaoke a nosweithiau gemau, ac yng nghlwb nos yr Academi. Mae Academi a Trinity, yr ail glwb nos ym Mangor, yn ategu ei gilydd yn eithaf da. A ydych chi'n hoff o gerddoriaeth yr 80au neu gerddoriaeth fwy traddodiadol y clwb nos? Os hynny Trinity yw鈥檙 clwb nos i chi. Ai cerddoriaeth Roc, Metal ac anthemau Pop poblogaidd yw eich dewis chi? Yr Academi yw鈥檙 lle i chi! Dwn im faint o weithiau y b没m i鈥檔 sgrechian yn uchel gyda鈥檙 anthemau Metal yn yr Academi a鈥檙 llais yn grug yn y bore. Ac nid Cymru fyddai Cymru heb fariau a chr么ls o amgylch y tafarndai! Bydd llawer o gymdeithasau鈥檔 cynllunio cr么ls o鈥檙 tafarndai drwy gydol y flwyddyn ond yn sicr mi allwch chi gynllunio un gyda ffrind! Byddwn i'n argymell dechrau ym Mar Uno, codi eich hoff beint (Guinness imi), ac yna mynd yn syth i鈥檙 Bellevue. Mae gan y bar hwnnw batio mewnol hyfryd a chlyd lle cewch chi ymlacio, yfed, ysmygu a siarad 芒 dieithriaid. Y dafarn nesaf yw鈥檙 Harp lle byddwch chi'n chwarae p诺l ac yn mwynhau diodydd bach creadigol (a blasus!). Nid nepell o鈥檙 fan mae Wetherspoon, sy'n adnabyddus iawn yn y Deyrnas Unedig. Y lle gorfodol olaf ar y rhestr yw鈥檙 Castell, bar clyd ger y stryd fawr sy'n gweini bwyd da.
Er imi barhau i wneud y gweithgareddau hynny yn ystod fy MA, treuliais fwy o amser yn crwydro鈥檙 ardal gan fy mod i'n mwynhau cerdded a heicio. Fel dinas rhwng y m么r a鈥檙 mynydd, mae gan Fangor lawer i'w gynnig. Treuliais ddau aeaf yno. Dwi鈥檔 cofio yfed coffi twym wrth y pier a chopa鈥檙 mynydd yn wyn dan eira nid nepell o鈥檙 fan. Roedd y golygfeydd cymysg yn rhywbeth newydd imi! Mae cymaint o deithiau cerdded i'w gwneud a lleoedd i ymweld 芒 nhw yng Nghymru ond pe bai'n rhaid imi ddewis, byddwn i'n argymell Ynys M么n, Biwmares, Portmeirion, Llanberis, Llandudno, Parc Cenedlaethol Eryri, Betws-y-Coed, Cwm Idwal a鈥檙 Rhaeadr Fawr, Aber. Mae gen i atgofion melys o鈥檙 Rhaeadr Fawr ym mis Mawrth: Aros am y bws i ddychwelyd i Fangor oeddwn i mewn dillad gwlyb a budr oherwydd imi ddychmygu bod yn Lord of the Rings a phenderfynu rhedeg yn y bryniau a鈥檙 rheini鈥檔 llaid i gyd鈥 Nid y foment ddisgleiriaf. Felly mi es i i'r siop goffi ger arhosfan y bws i aros am ennyd o fwynhad. Tra roeddwn yn yfed fy nhe, dysgodd y perchennog, dyn hyfryd, imi sut i wella fy ynganiad Cymraeg a dangosodd imi'r ffordd gywir o fwyta Bara Brith (rhybudd: wedi'i sleisio a menyn arno, pleser pur!).
Yn ystod y semester a鈥檙 MA, b没m i'n byw mewn neuaddau. Yn y fflat cyntaf imi ei rannu, roedd dau fyfyrwraig Erasmus (un yn ferch o'r Almaen) a llu o lasfyfyrwyr o Loegr. Mi wnaethon ni gyd-dynnu鈥檔 eithaf da! Byddai pawb byth a hefyd yn dod 芒 ffrindiau draw a gyda fy nghyd-letywraig Erasmus a myfyrwyr rhyngwladol eraill o adeiladau eraill, bydden ni'n paratoi bwyd o'n gwlad ni. Cefais fy nghegiad cyntaf o gnocchi go iawn mewn saws tomato cartref a bisged Nadolig yr Almaen yno; Credaf imi wneud Poulet Basquaise a Mont d'Or, dau bryd Ffrengig nodweddiadol, Barbeciw a hyd yn oed rys谩it risotto cwbl wreiddiol i ffrind o鈥檙 Eidal (cynnig beiddgar, mi wn ond fe wnaeth hi ei fwynhau'n fawr iawn). Yn ystod fy MA, b没m yn rhannu fflat gyda 6 o fyfyriwr 么l-radd rhyngwladol eraill o Tsieina, India a Malaysia. Roedd un o fy ffrindiau o Loegr yn dal i wneud BA yma, a byddai yntau鈥檔 dod draw o dro i dro i roi cynnig ar fwy o ddanteithion Ffrengig a'm dychryn gyda ffyrdd anghonfensiynol o fwyta prydau Ffrengig a fyddai'n peri i fy hynafiaid droi yn eu beddau.
Ar 么l fy semester yng Nghymru, dychwelais i Ffrainc i ddechrau ar semester olaf y BA ac, oherwydd natur fy ngradd, treuliais gwpl o fisoedd yn gwneud ymchwil yn Ottawa a Montreal. 10 mlynedd cyn fy ymchwil, treuliais bythefnos yn Quebec ac Ontario gyda fy rhieni; mi wnaeth y wlad argraff arnaf nes imi benderfynu cael tat诺 dail masarn fel addewid i ddychwelyd yno rhyw ddiwrnod. Roedd y cyfle hwnnw鈥檔 sicr yn fodd i wireddu breuddwyd a chyflawni addewid. Yna, fis Medi 2023, dychwelais i Fangor i ddechrau ar siwrnai newydd: gradd mewn Cyfieithu. Wrth i'r flwyddyn hedfan heibio, sylweddolais rywbeth: Roeddwn i eisiau ail radd Meistr i arbenigo mewn maes tebyg i'r BA (Hanes Lloegr ac America, Llenyddiaeth ac Ieithyddiaeth), gan obeithio dod yn gyfieithydd ardystiedig i Undeb Ewrop. Dechreuais ddysgu Almaeneg ychydig fisoedd cyn y penderfyniad hwnnw (ar gyfer fy ffrindiau o鈥檙 Almaen ac ar gyfer fy mywyd yn yr Almaen yn y dyfodol), gwnes gais i sawl rhaglen Meistr yn yr Almaen. Fis Mehefin 2024, dechreuodd y penderfyniadau gyrraedd gan gynnwys un gan fy newis cyntaf o blith y prifysgolion a dyma oedd y dyfarniad: Derbyniwyd. Fe wnaeth Prifysgol Friedrich-Schiller yn Jena, Thuringia fy nerbyn ar MA mewn astudiaethau Saesneg ac Americanaidd. O'r adeg honno tan ddiwedd mis Medi 2024, mi gadwodd fy llwyth meddyliol i ar flaenau fy nhraed. Mewn 3 mis, bu鈥檔 rhaid imi orffen fy nhraethawd MA cyn 29 Medi, chwilio am fflat yn Jena, gofalu am fiwrocratiaeth hysbys yr Almaen, gorffen fy nghais prifysgol a symud allan. Digon o hwyl, onid e? Ond yn y diwedd, mi lwyddais i ddod i ben 芒鈥檙 cyfan, ac ers 1 Hydref, rwy'n falch o ddweud fy mod yn fyfyriwr 么l-radd yn yr FSU.
Er imi raddio a 鈥榤od i bellach yn byw bywyd gwahanol iawn yn yr Almaen, rwy'n dal i ddisgrifio Cymru (yn enwedig Bangor) fel perl o le nad yw鈥檔 cael ei werthfawrogi'n ddigonol i'm ffrindiau. Mae'n debyg eu bod nhw'n meddwl imi ddangos gormod o luniau iddyn nhw neu siarad gormod ond, yn fy marn i, fydd o byth yn ddigon i roi geiriau yngl欧n 芒 pha mor anhygoel oedd fy amser yno a pha mor hudolus yw'r lle hwn. Oherwydd amserlen yr ysgol, dwn i ddim pryd y byddaf yn gallu dychwelyd i Fangor ond rwy'n edrych ymlaen at ailddarganfod y lle a fu鈥檔 fodd imi dyfu fel person ac ymweld 芒 rhai o fy ffrindiau.鈥