Atal Bwlio Mewn Ysgolion
Mae bwlio mewn ysgolion yn her fyd-eang a all gael effeithiau hirdymor. Yn aml, mae plant sy'n cael eu bwlio yn cael trafferth dysgu ac yn wynebu risg uwch o sialensiau iechyd meddwl.
Yn y weminar hon, byddwn yn archwilio beth sy'n ysgogi bwlio, ei effaith, a sut y gall newid diwylliant yr ysgol— a grymuso'r rhai sy'n dystion i fwlio — wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Byddwch hefyd yn clywed canfyddiadau o dros 12 mlynedd o ymchwil dan arweiniad Bangor ar raglen gwrth-fwlio KiVa® o'r Ffindir, sy'n dangos sut y gall strategaethau effeithiol leihau niwed a chreu ysgolion mwy diogel.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg Bangor.
Dr Anwen Rhys Jones
Mae Anwen yn ddarlithydd Seicoleg ac yn Swyddog Ymchwil gyda'r Ganolfan Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar Plant ( ). Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthuso rhaglenni sy'n helpu plant a theuluoedd i ffynnu— yn amrywio o gefnogaeth rhianta a datblygiad iaith plant i atal bwlio. Mae hi hefyd yn hyfforddi ysgolion ac ymarferwyr i ddanfon y rhaglen gwrth-fwlio KiVa® a'r rhaglen Rhannu Llyfrau rhyngweithiol.