Hyfforddiant Sgiliau Ymchwil i Fyfyrwyr Ôl-radd
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal cyfres o gyrsiau hyfforddiant sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd dros y misoedd nesaf.
Mae’r hyfforddiant yn agored i fyfyrwyr ôl-radd sy’n siarad Cymraeg o bob prifysgol, ac yn ymdrin â materion fel trefnu a chynllunio ymchwil, defnyddio ffynonellau, dulliau ymchwil, sgiliau ysgrifennu academaidd, ayyb, yn ogystal â materion yn ymwneud ag iechyd a lles, a hyrwyddo gyrfa a chyflogadwyedd.
Darperir yr holl hyfforddiant am ddim, ac mae croeso mawr i unrhyw fyfyriwr MA, MPhil, PhD ac ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n siarad Cymraeg, beth bynnag yw dy bwnc a phwy bynnag sy'n dy gyllido.
Mae rhagor o wybodaeth a’r ffurflen gofrestru
Am ragor o wybodaeth, cysyllta â Dr Manon James: m.james@colegcymraeg.ac.uk