Project Gwirfoddoli Cyfeillgar i Ddraenogod ym Mangor
Mae鈥檙 project Cyfeillgar i Ddraenogod yn broject dan arweiniad myfyrwyr sy鈥檔 helpu i wella ein cymuned leol er mwyn galluogi draenogod i ffynnu. Sefydlwyd y project am y tro cyntaf yn 2020, mewn partneriaeth 芒 champws cyfeillgar i ddraenogod (HFC), a oedd yn fenter ar y cyd i brifysgolion, ysgolion cynradd a cholegau gwblhau gweithgareddau ac ennill cydnabyddiaeth am wella鈥檙 dirwedd leol ac addysgu myfyrwyr a鈥檙 gymuned ar amddiffyn draenogod. Mae'r project bellach yn broject gwirfoddoli annibynnol o fewn y brifysgol sy'n annog ymgysylltiad myfyrwyr, a'r nod yw gweithio'n agos gyda grwpiau bywyd gwyllt lleol.
Mae鈥檙 project wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys sesiynau codi sbwriel, codi arian ar gyfer Cymdeithas Gwarchod Draenogod Prydain (BHPS), arolygon draenogod, gweithdai adeiladu tai, a llawer mwy.
Nod y project yw ymgysylltu myfyrwyr 芒 bywyd gwyllt lleol a'r awyr agored i ddysgu sut i amddiffyn y rhywogaeth annwyl hon, ond sy鈥檔 un o鈥檙 rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl, yn yr amgylchedd. Mae'r project hefyd yn lle i fyfyrwyr feithrin cyfeillgarwch ac ennill profiad ymarferol a sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae鈥檙 cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn ffynhonnell gref o gefnogaeth gan y gymuned ehangach, staff a myfyrwyr, ac mae鈥檔 ffordd effeithiol o gyfathrebu鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud ac egluro sut y gall unrhyw un gymryd rhan. Cymerwch gip ar y tudalennau cyfryngau cymdeithasol isod i ddysgu mwy.
Cymerwch ran
Mae鈥檙 t卯m campws cyfeillgar i ddraenogod wedi ysgrifennu blogiau sy鈥檔 egluro diben y project, y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal, a sut y gallwch chi gymryd rhan.
- Darllenwch y blogiau yma: www.bangor.ac.uk/environment/hedgehog-friendly-campus-blog.php.en
- Instagram 鈥�
- Facebook 鈥�
- Ebost - hedgehogproject@undebbangor.com