I Affrica â Datblygu Cynaliadwy Cymreig
Mae arbenigwyr Cymreig ar dechnolegau ynni adnewyddadwy wedi bod yn rhannu eu profiadau i bobl fusnes fu ar gwrs ar ynni adnewyddadwy. Y gobaith yw y byddant yn gallu mynd ââu profiadau o Gymru yn Ă´l i Affrica i ddatrys yr her syân gysylltiedig â newid hinsawdd fydâeang. Cafodd y pymtheg oedd yn rhan oâr cwrs eu hannog i ddatblygu syniadau busnes eu hunain fydd yn datrys problemauân ymwneud â datblyguân gynaliadwy.
âEin gwaith ni oedd eu hannog i ystyried beth yw gwir ystyr cynaliadwyedd ac i fentro meddwl a gwneud pethauân wahanol a chreadigol. Roeddem am roiâr hyder iddyn nhw fynd yn Ă´l gyda syniadau am dechnoleg adnewyddadwy y gallant eu haddasu i ddatrys eu problemau nhw yn eu ffordd eu hunainâ meddai Dr Einir Young, Cyfarwyddwr dros dro a Phennaeth Datblygu Cynaliadwy Sefydliad Cymreig ar gyfer Adnoddau Naturiol (SCAN) Prifysgol Bangor.
Cefnogwyd y cwrs, a barodd am fis, gan Sefydliad y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Diwydiant (UNIDO) a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd pobl o chwe gwlad Affricanaidd yn rhan oâr grĹľp, i gyd wedi ymrwymo i ddelfryd UNIDO o âhyrwyddo datblygiad diwydiannol er mwyn lleihau tlodi, globaleiddio cynhwysol a chynaliadwyedd amgylcheddolâ.
âRydym i gyd yma o wahanol rannau o Affrica er mwyn dysgu am gynaliadwyedd yng Nghymru. Rydym oll wedi ymuno â her fydâeang o leihau ein dibyniaeth ar garbonâ meddai Mr Samuka Dunnoh o Liberia.
Croeso iâr dreigiau Cymreig:
Cafodd yr ymwelwyr elwa ar brofiadau arbenigwyr o BC (Y ganolfan bioâgyfansoddion), BML Oils, Bright Light Solar Ltd, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Clifford Jones Timber Ltd, Canolfan Newid Hinsawdd Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Infinis Plc, Canolfan Amgylcheddol Moelyci, Reegen Ltd, Resurgam (project ynniâr llanw Conwy tidal ), Q Marketing & PR Ltd, Venture Wales, Waste Recycling Group Ltd, Ynni Gwynt Cymru Cyf. ac Ynys Resources Ltd
Uchafbwynt y cwrs, ddydd Iau Medi 16, oedd cyflwyno cynlluniau busnes i banel o âDdraig Cymreigâ er mwyn ymarfer gwneud cyflwyniad busnes llwyddiannus. Gydaâr nos cawsant gyfarfod y Gweinidog Diwylliant Alun Ffred Jones i ddiolch iâr Cynulliad am eu haelioniân ariannuâr cwrs, i drafod eu cynlluniau a rhannu uchafbwyntiau'r mis gydag ef. Cyflwynwyd tystysgrifau cyrhaeddiad iddynt gan Alun Ffred Jones.
âMae hwn wedi bod yn gyfle arbennig i ddangos technoleg adnewyddadwy Cymru ar ei orau ac rwyân mawr obeithio y bydd eu profiad yng Nghymru yn eu helpu i ddod o hyd i atebion o Affrica ar gyfer yr her newid hinsawddâ meddai Alun Ffred Jones.
âHoffwn ddiolch iâr Brifysgol am eu harbenigedd aâu croeso. Cawsom ein goleuo yn ystod y teithiau i weld arbenigwyr Cymreig. Llwyddodd y cwrs i chwaluâr hud cynaliadwyedd a thechnoleg gynaliadwy, mae gen iâr hyder nawr i roi technoleg Gymreig ar waith yng nghydâdestun Affrica. Rydym yn barod ar gyfer yr herâ meddai Usamah L. Kaggwa, Swyddog Ynni Gweriniaeth Uganda.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2010