Ïã½¶ÊÓÆµAPP

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

Professor Gerwyn Wiliams

Athro Emeritws

g.wiliams@bangor.ac.uk

Professor Gerwyn Wiliams

Rhagolwg

Bywgraffiad

Un o Bwllheli yn yr hen Sir Gaernarfon yw Gerwyn Wiliams yn enedigol a mynychodd Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn ac Ysgol Uwchradd y Trallwng, Sir Drefaldwyn cyn mynd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle y graddiodd yn y Gymraeg.Ìý Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth dan gyfarwyddyd Yr Athro John Rowlands, bu’n gweithio am gyfnod byr fel Is-Olygydd i’r cylchgrawn misolÌýBarnÌýcyn ei benodi’n Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn 1989.Ìý Bu’n Is-Gyfarwyddwr yr Ysgol Astudiaethau Trwy'r Gymraeg (1996-98), yn Ddeon Cyfadran y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithas (2000-02) ac yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Dyniaethau a’r Celfyddydau (2005-06).Ìý Fe’i dyrchafwyd i Gadair Bersonol yn Nhachwedd 2005.

Ymchwil

Cyhoeddwyd ffrwyth ei ymchwil i lenyddiaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf mewn dwy gyfrol:ÌýY Rhwyg: Arolwg o Farddoniaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd CyntafÌý(1993) aÌýTir Neb: Rhyddiaith Gymraeg a’r Rhyfel Byd CyntafÌý(1996).Ìý EnwydÌýTirNebÌýyn Llyfr y Flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1997 a dyfarnwyd i’r gyfrol Wobr Goffa Ellis Griffith a Buddged Mrs L. W. Davies gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1998.Ìý Datblygodd ei ddiddordeb yn y berthynas rhwng llenyddiaeth a rhyfel yn arbenigedd academaidd: yn 2005 cyhoeddoddÌýTir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a’r Ail Ryfel BydÌýac yn 2006 cyhoeddodd ‘Cofio Rhyfel Anghofiedig: Dehongli a Chyd-destunoli Rhyfel y Falklands/Malvinas 1982’ ynÌýCof Cenedl XXI.

Creadigol

Daeth i’r amlwg yn ifanc fel bardd: enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd gyda dau gasgliad o gerddi,ÌýTynnu GwaedÌý(1983) aÌýColli CyswlltÌý(1984) a chyhoeddodd dair cyfrol arall o gerddi sefÌýRhwng y Cŵn a’r BrainÌý(1988),ÌýCydio’n DynnÌý(1997) aÌýTafarn Tawelwch(2003).Ìý Yn y dilyniant o gerddi ‘Dolenni’ a enillodd iddo Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994 fe’i gwelir yn ymateb yn greadigol i’w ddiddordeb mewn llenyddiaeth a rhyfel gyda cherddi am Ryfel Fiet-nam, Rhyfel y Gwlff a’r gwrthdaro yn Bosnia a Serbia. Cyrhaeddodd ei gyfrolÌýRhwng Gwibdaith a ColdplayÌý(2011) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2012.

Gwybodaeth Cyswllt

E-bost:Ìýgerwyn@bangor.ac.uk

¹ó´Úô²Ô±ð:Ìý+44 (0) 1248 38 2241

Lleoliad:ÌýYstafell 5, Coridor yr Athrawon

Addysgu ac Arolygiaeth

Llên Gyfoes (Lefel 1): CXC-1016

Llên a Llun (Lefel 1: Ail Iaith): CXC-1008

Gweithdy Creadigol (Lefel 1): CXC-1018

Gweithdy Barddoniaeth (Lefel 2 a 3): CXC-2118 / CXC-3018

Barddoniaeth Fodern (Lefel 2 a 3): CXC-2107 / CXC-3007

Llenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf (Lefel 2 a 3): CXC-2113 / CXC-3013

Traethawd Estynedig (Lefel 3): CXC-3009

Diddordebau Ymchwil

Llenyddiaeth a rhyfel; ffuglen Gymraeg fodern, yn enwedig y nofel; barddoniaeth Gymraeg gyfoes; ysgrifennu creadigol.

Cyhoeddiadau

2020

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 22 Hyd 2020, Talybont: Y Lolfa. 504 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Awst 2020, Yn: Barn. Awst 2020, 691, t. 33-35 3 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl

2019

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2019
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Owen, H. W. & Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Hyd 2019, Yn: Llên Cymru. 42, t. 141-162
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Rhag 2019, Yn: Barn. 683/684 Rhagfyr/Ionawr 2019/2020, t. 63-6 4 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Kelly, S. & Lindsay, P., 2019, historypoints.org.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2019, historypoints.org.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Castle, R., Jones, R. P. & Groom, L., 2019, historypoints.org.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall

2018

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Hyd 2018, Yn: Llên Cymru. 41, t. 118-146
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Rhag 2018, Yn: Barn. Rhagfyr/Ionawr 2018/19, 671/672, t. 46-8 3 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G. & Rhys Parri, L. (Darlunydd), 27 Medi 2018, Gwasg y Bwthyn. 80 t.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 7 Awst 2018, Y Bywgraffiadur Cymreig. National Library of Wales (NLW)
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur

2017

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2017
    Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G. & Lewis, W. G. (Golygydd), Awst 2017, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Lewis, W. G. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 249-58 10 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Lewis, W. G. (Golygydd), Roberts, L., Rhydderch, F. & Edwards, S., Awst 2017, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Lewis, W. G. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 156-63 8 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2017, Macbeth [rhaglen cynhyrchiad]. t. 4-5
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Rhagair/Ol-Nodiad
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2017, 'Hedd Wyn a Chynan'. t. 12 1 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Rhagair/Ol-Nodiad

2016

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 29 Meh 2016, Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr Ar Gymdeithas a Diwylliant Yng Nghymru. Matthews, G. (gol.). 2016 gol. Caerdydd: University of Wales Press, t. 217-240 23 t. (Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig).
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Gorff 2016, Yn: O'r Pedwar Gwynt. Haf 2016, 1, t. 26 1 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl

2015

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2015, Yn: Y Traethodydd. CLXX, 714, t. 188-92 5 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Jones, C., Jones, N. W., Hughes, J. E. (Golygydd) & Rhys, M., Awst 2015, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau. Hughes, J. E. (gol.). Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, t. 43-50 8 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2015, Yn: Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd. t. 190-199 10 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl

2014

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2014, Gwaed Gwirion. 2014 gol. Llandysul: Gwasg Gomer, t. v-lvi 51 t.
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Rhagair/Ol-Nodiad
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Medi 2014, Yn: Barn. 620, Medi 2014, t. 35-6 2 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2014, Yn: Y Traethodydd. CLXIX, 711, t. 231-52 21 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2014, Yn: Barn. 618/619
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl

2013

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Hyd 2013, Ysgrifau Beirniadol XXXII. Gwasg Gee, t. 11-79
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 2013, Yn: Barn. 608, t. 56-7 2 t.
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl

2012

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Gorff 2012, Yn: Llên Cymru. 35, 1, t. 68-115
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid

2011

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 26 Gorff 2011, Unknown Publisher.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

2010

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Gorff 2010, Yn: Llên Cymru. 33, 1, t. 151-177
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
  • Cyhoeddwyd
    Williams, M. & Wiliams, G. (Golygydd), 2010, Yn: Ysgrifau Beirniadol. 29, t. 8-23
    Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G. (Golygydd), 1 Ion 2010, 2010 gol. Gwasg Gee.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

2009

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G. (Golygydd), 1 Ion 2009, 2009 gol. Gwasg Gee.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

2007

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., Cragoe, M. (Golygydd) & Williams, C. (Golygydd), 1 Ion 2007, Wales and War: Society: Politics and Religion in the Nineteenth and Twentieth Centuries. 2007 gol. University of Wales Press, t. 204-229
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G. & Walford Davies, J. (Golygydd), 1 Ion 2007, Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged yr Athro Gwyn Thomas. 2007 gol. Cyhoeddiadau Barddas, t. 242-68
    Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod

2005

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Ion 2005, University of Wales Press.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

2003

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1 Ion 2003, Gwasg Carreg Gwalch.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr

1993

  • Cyhoeddwyd
    Wiliams, G., 1993, Llandysul: Gwasg Gomer.
    Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid

Gweithgareddau

2020

  • 'Wrth i seremonïau'r Orsedd gael eu diwygio oherwydd agweddau israddol tuag at ferched, ydi'r ffigwr dadleuol wnaeth eu cyflwyno nhw yn y lle cyntaf wedi cael gormod o glod dros y blynyddoedd - neu feirniadaeth annheg?' Eitem ar wefan BBC Cymru Fyw

    7 Awst 2020

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Darlith Flynyddol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a ddarlledwyd fel rhan o ddarpariaeth Eisteddfod AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol

    3 Awst 2020

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd)
  • Sgwrs estynedig am berthynas Cynan gyda'r Eisteddfod Genedlaethol fel rhan o ddarllediad AmGen BBC Radio Cymru

    1 Awst 2020

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Cadeirio trafodaeth banel ar ôl perfformiad o Llyfr Glas Nebo, drama Cwmni'r Frân Wen yn seiliedig ar nofel Manon Steffan Ros.

    5 Maw 2020

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cadeirydd)
  • Cyflwyniad i bapurau Cynan yn Archifdy Prifysgol Bangor

    31 Ion 2020

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Sgwrs ar Raglen Dei Tomos, BBC Radio Cymru, a ddarlledwyd i gyd-fynd a marwolaeth Cynan hanner canrif union yn ol ar 26 Ionawr 1970.

    26 Ion 2020

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Sgwrs radio am y ffilm 1917 a gyfarfwyddwyd gan Sam Mendes ac am ymateb llenyddiaeth a llunyddiaeth Gymraeg i thema rhyfel.

    20 Ion 2020

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Sgwrs i gymdeithas lenyddol am gysylltiad Cynan gyda'r frenhiniaeth.

    8 Ion 2020

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)

2019

  • Trafodaeth gyda'r actor Huw Garmon, a actiodd y brif ran yn y ffilm Hedd Wyn am fywyd Ellis Humphrey Evans, yn ystod Cwrs Preswyl Cymraeg i ddisgyblion lefel 'A' yng Nghanolfan yr Urdd, Glan-lyn.

    18 Tach 2019

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • '"Gan y Gwirion y Ceir y Geir": Dadansoddi'r Defnydd o Salwch Meddwl fel Elfen mewn Llenyddiaeth Gymraeg Ddiweddar', traethawd a gyflwynir am radd PhD Prifysgol Abertawe, 2019

    25 Hyd 2019

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • Darlith agoriadol Cymdeithas Lenyddol Capel y Garn, Bow Street, Ceredigion

    18 Hyd 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Siaradwr)
  • Sgwrs drwy wahoddiad yn ystod noson a drefnwyd gan bwyllgor Eisteddfod Marianglas i ddathlu llwyddiant Dr Gareth Evans-Jones, Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019

    3 Hyd 2019

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Arholydd Allanol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth ar gyfer cyrsiau gradd israddedig (Cymraeg, Cymraeg Proffesiynol ac ysgrifennu creadigol) ac MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.

    1 Hyd 2019 – 30 Medi 2020

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • Cynghori'r QAA ynghylch newidiadau i'w Ddatganiad Meincnod Cymraeg yn rhinwedd fy swydd fel cadeirydd y panel adolygu diwethaf.

    1 Hyd 2019

    Gweithgaredd: Aelodaeth o bwyllgor (Cadeirydd)
  • Cyfieithu cerdd o'r Saesneg i'r Gymraeg fel rhan o broject rhyngwladol Talking Transformations

    1 Hyd 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Arall (Cyfrannwr)
  • Golygydd Gwadd 'Gwaddol Gwyn' sef ffrwyth y gynhadledd 'Gwaddol Gwyn: cynhadledd i ddathlu bywyd a gwaith Gwyn Thomas' a drefnwyd gennyf 23-24 Mawrth 2018. Golygwyd a chyhoeddwyd papurau gan Gruffydd Aled Williams, D. Densil Morgan, Siwan M. Rosser, Rhianedd Jewell, Kate Woodward yn ogystal ag erthygl gysylltiol gan Lowri Havard. Tt. 140.

    Hyd 2019

    Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Golygydd gwadd)
  • Translation for Pontio exterior wall

    Hyd 2019

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Trefnydd cyfarfod i arddangos doniau myfyrwyr ôl-raddedig creadigol Ysgol y Gymraeg sef Elis Dafydd, Caryl Bryn, Osian Owen a LlÅ·r Titus ym mhabell Prifysgol Bangor ar faes Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019.

    6 Awst 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Trefnydd)
  • Holi'r awdures Mared Lewis yn noson lansio ei nofel Treheli y cyfansoddwyd rhan ohoni ar gyfer cwrs MA Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg, project a gyd-gyfarwyddwyd gan yr Athro Angharad Price a Gerwyn Wiliams

    26 Gorff 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Cyfraniad i golofn boblogaidd yn y cylchgrawn materion cyfoes wythnosol Golwg

    25 Gorff 2019

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Cyflwyno papur yn y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol VXI, 22-26 Gorffennaf 2019, 'Y Frenhiniaeth, yr Orsedd a "Phroblem Gogledd Cymru", 1939-46'

    22 Gorff 2019 – 26 Gorff 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • Aelod o bwyllgor trefnu'r Gyngres Geltaidd Ryngwladol, e.e. trefnu cadeiryddion ar gyfer yr holl banelau a phrif ddarlithoedd; trefnu, cyfweld a phenodi intern ar gyfer y Gyngres; cadeirio sesiynau.

    22 Gorff 2019 – 26 Gorff 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Aelod o bwyllgor rhaglen)
  • Aelod o banel yn trafod y ffilm Hedd Wyn dan gadeiryddiaeth Dr Manon Wyn Williams; roedd y panel hefyd yn cynnwys yr actor Huw Garmon a Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Cynulleidfa o ddisgyblion ysgol.

    6 Maw 2019

    Cysylltau:

    • /news/digwyddiadau/cofio-r-bugail-panel-trafod-y-ffil-hedd-wyn-39826
    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
  • Gwahoddiad i gyfrannu i drafodaeth-o-gwmpas-y-bwrdd ar ieithoedd yn y sector addysg uwch / Invited to contribute to a round table discussion on languages in the higher education sector

    30 Ion 2019

    Gweithgaredd: Ymgynghoriad (Ymgynghorydd)
  • 21 Ion 2019

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Sgwrs i Gymdeithas Undebol Penmaenmawr am Cynan a'i gysylltiad â'r dref y bu'n weinidog ynddi rhwng 1921 a 1931.

    14 Ion 2019

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2018

  • 30 Rhag 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Sgwrs ynglyn a fy nghyfrol ddiweddaraf o gerddi, Cardiau Post.

    2 Rhag 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Cyfieithu cerdd Eric Ngalle Charles o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer fersiwn Cymraeg dogfen ymgynghorol Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ei Strategaeth Loteri yn 2019-24

    12 Tach 2018 – 15 Chwef 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Arall (Cyfrannwr)
  • Lansio fy nghyfrol ddiweddaraf o gerddi, Cardiau Post (Gwasg y Bwthyn), yn Galeri, Caernarfon yng nghwmni tua 90 o gynulleidfa. Fe'm holwyd gan Yr Athro Angharad Price a bu Dr Manon Wyn Williams yn darllen detholiad o'r gyfrol.

    31 Hyd 2018

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Aelod o Bwyllgor Craffu B1 Cymdeithas Ddysgedig Cymru / Member of B1 Scrutiny Committee Learned Society of Wales

    19 Medi 2018 – 1 Mai 2021

    Gweithgaredd: Aelodaeth o bwyllgor (Aelod)
  • Cwrs Astudio'r Cerddi: cerddi gosod y cwrs AS, cwrs i ysgolion uwchradd de Cymru; traddodwyd cyfanswm o 4 darlith, 2 ohonyn nhw gennyf fi.

    19 Chwef 2018

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Arholi traethawd PhD Catrin Heledd Richards ar y defnydd o gyfeiriadaeth yn nofel Dafydd Rowlands, Mae Theomemphus yn Hen. Yr arholwr mewnol oedd Dr Simon Brooks a'r cadeirydd oedd Yr Athro Gwynedd Parry. Cynhaliwyd yr arholiad llafar ar19 Ionawr 2018.

    2018

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2018

    2018

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • Beirniad llenyddiaeth

    2018

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Arholwr)
  • 'Gwaddol Gwyn' - dathlu a chloriannu bywyd a gwaith Gwyn Thomas

    2018

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)

2017

  • Rhaglen i gofio'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a gynhaliwyd yn y Babell Len, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017. Fe'i cynlluniwyd gan Derec Llwyd Morgan, Geraint Percy Jones, Ynyr Williams a Gerwyn Wiliams. Fe'i cyflwynwyd gan Eifion Glyn a bu'r canlynol yn cymryd rhan: Derec Llwyd Morgan, Geraint Percy Jones, Meinir Pierce Jones, Non Indeg Evans a Gerwyn Wiliams. Darlledwyd y rhaglen ar BBC Radio Cymru 31 Rhagfyr 2017 a 2 Ionawr 2018.

    2017

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Fe'm gwahoddwyd i ddod yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Theatr Bara Caws, un o'r prif gwmniau drama yn y Gymraeg a noddir gyda grantiau gan Gyngor Celfyddydau Cymru (cleient refiniw) a chynghorau sir Conwy, Gwynedd a Mon. Cartrefir y cwmni yng Nghaernarfon a gweithredu yn genedlaethol.

    2017 →

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Aelodaeth o banel neu bwyllgor adolygu cymheiriaid (Cyfrannwr)
  • 2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Darlithydd)
  • Cwrs preswyl a drefnir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor ar y cyd a Chanolfan yr Urdd, Glan-llyn, Y Bala, Gwynedd ar gyfer disgyblion Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith); caed cyfraniadau gan staff Bangor a siaradwyr allanol.

    2017

    Cysylltau:

    • /ysgolygymraeg/cwrs-preswyl.php.cy
    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Cyfarfod ac arddangosfa I gofio canmlwyddiant mar'r Prifardd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf 1917 a'i lwyddiant yn ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym Medi 1917 gulag awdl 'Yr Arwr'. Prif westai'r cyfarfod oedd nai y bardd, Gerald Williams, Yr Ysgwrn, Trawsfynydd.

    2017

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • Darlith gyhoeddus ar berthynas Cynan a'r Rhyfel Byd Cyntaf yn ogystal a'r cyswllt rhyngddo a David Lloyd George.

    2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd)
  • I arwyddo trichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn, ac argraffiad newydd o gyflwyniad dadleuol Saunders Lewis i'w fywyd a'i waith a gyhoeddwyd gyntaf yn 1927, gwahoddwyd Yr Athro Dafydd Densil Morgan i draddodi darlith Dygwyl Dewi Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.

    2017

    Cysylltau:

    • /ysgolygymraeg/events/prifysgol-bangor-yn-dathlu-trichanmlwyddiant-geni-pantycelyn-30954
    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Noson i ddathlu llwyddiannau'r Prifardd Gwion Hallam, enillydd y Goron, a'r Prif Lenor Sonia Edwards, enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017

    2017

    Cysylltau:

    • /ysgolygymraeg/digwyddiadau/dathlu-llwyddiannau-eisteddfodol-33929
    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Beirniad cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith; traddodi'r feirniadaeth ar ran y panel beirniadu o lwyfan yr wyl yn ystod seremoni Orseddol y Fedal Ryddiaith.

    2017

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Arholwr)
  • Beirniad llenyddiaeth (oedolion) yn Eisteddfod Goronog Llandegfan 2017

    2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Arholwr)
  • Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a chyda chefnogaeth gan Chapter

    Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

    6-7pm Sgwrs cyn y dangosiad byw, Stiwdio, Lefel 2

    Gwyn Thomas, Llunyddiaeth a'r Llwyfan

    Pontio ac Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn cyflwyno sgwrs gyda'r Athro Gerwyn Wiliams yng nghwmni Dr William R. Lewis, Yr Athro Jason Walford Davies ac Ifor ap Glyn, mewn partneriaeth â Theatr Genedlaethol Cymru. Cynhelir y digwyddiad yn Gymraeg ac fe fydd yn cael ei ffrydio’n fyw ar y we. AM DDIM ond rhaid archebu tocyn.

    2017

    Cysylltau:

    • /alumni/digwyddiadau/macbeth-darllediad-byw-theatr-gen-byw-29924
    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Rhaglen radio a ddarlledwyd ar BBC Radio Cymru i gyd-fynd â chanmlwyddiant marw Hedd Wyn.

    2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Cyfraniad i raglen radio a ddarlledwyd ar BBC Wales ac a wnaed gan Made in Manchester TV i gyd-fynd â chanmlwyddiant marw Hedd Wyn.

    2017

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Dei Tomos yn holi prif enillwyr llenyddol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017 yng nghwmni rhai o'r beirniaid. Cyfarfod yn y Babell Len, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Mon 2017

    2017

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Darlith wadd yn y Babell Len ar y cysylltiad rhwng Albert Evans Jones (Cynan) ag Ynys Mon

    2017

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Siaradwr)
  • Holi Ruth Richards am ei chyfrol ddiweddaraf, Pobol i'w Hosgoi, mewn noson lansio. Cyhoeddwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.

    2017

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • Gwestai'r cyflwynydd Hywel Gwynfryn yn ystod seremoni'r Coroni

    2017

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Gwestai ar raglen radio Beti George, Tocyn Wythnos, yn trafod cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith gyda'r beirniaid eraill, Francesca Rhydderch a Lleucu Roberts

    2017

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • 2017

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Un o brojectau Panel Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i dargedu disgyblion TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf) gyda golwg ar gynyddu'r nifer sy'n astudio'r pwnc ar gyfer lefel 'A' ac yn y brifysgol. Ffrwyth cydweithio cenedlaethol rhwng academyddion mewn adrannau Cymraeg o fewn prifysgolion Cymru. Ymwelwyd ym mis Tachwedd 2017 a 40 o ysgolion uwchradd ledled Cymru ac annerch 2,000 o ddisgyblion. Lansiwyd y cynllun yn Ysgol Bro Edern, Caerdydd ym mhresenoldeb Gweinidog yr Iaith Gymraeg, Alun Davies, a chafwyd sylw helaeth ar newyddion Radio Cymru ac S4C ac yn y wasg bapur ac ar-lein. Fel rhan o'r cynllun, ymwelais yn bersonol ag 8 o ysgolion ar hyd a lied Cymru.

    2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Siaradwr)
  • Ymweliad ag Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug i gyfarfod dau grŵp. Disgyblion TGAU a oedd yn ystyried dilyn Cymraeg yn y 6ed Dosbarth; disgyblion Cymraeg yn y 6ed Dosbarth i drafod Un Nos Ola Leuad ag agwedd synoptig eu cwrs.

    2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)
  • 2017

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)

2016

  • Cadeirio sgwrs rhwng yr Athro Gerwyn Wiliams ac Ifor ap Glyn (Pontio)

    7 Gorff 2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Arholydd allanol ar gyfer traethawd PhD Manon Wynn Davies: '"Nid yw diwedd y daith ond ei dechrau": agweddau ar waith Iwan Llwyd', 16 Mai 2016.

    2016

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • Arholydd mewnol ar draethawd PhD Ysgrifennu Creadigol Meg Elis.

    2016

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • Cynhadledd

    2016

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Holi'r Prifardd Guto Dafydd ac yntau ddeuddydd ynghynt wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Ymbelydredd.

    2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 2016

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Darlithydd)
  • Cwrs Preswyl Glan-llyn

    2016

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Darlith ar Cynan a'r Rhyfel Byd Cyntaf i aelodau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, 8 Hydref 2016.

    2016

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd)
  • Darlith i aelodau arddwest Eisteddfod Gadeiriol Môn ar agweddau ar fywyd a gwaith Cynan a fu'n byw ar yr ynys am flynyddoedd lawer. Cynhaliwyd y ddarlith ym mhentref Bodffordd.

    2016

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd)
  • Darlith fer ar Cynan a'i waddol ar achlysur dadorchuddio penddelw'r cerflunydd John Meirion Morris.

    2016

    Cysylltau:

    • /ysgolygymraeg/digwyddiadau/penddelw-cynan-prifardd-y-rhyfel-mawr-25511
    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Darlithydd)
  • Treuliodd Jelle Krol fis Chwefror 2016 fel ymwelydd ar ymweliad, yn ymchwilio ym Mangor ac Aberystwyth drwy drefniant Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Roeddwn yn ail gyfarwyddwr ar gyfer ei broject PhD sef astudiaeth o bedwar awdur lleiafrifol gan gynnwys Saunders Lewis. Cyflwynodd seminar ar ei faes ymchwil yn rhaglen seminarau ôl-radd ac ymchwil Ysgol y Gymraeg yn ystod ei arhosiad. Enillodd ei ddoethuriaeth ym Mehefin 2018.

    2016

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Gwesteio ymwelydd academaidd (Gwesteiwr)
  • 2016

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
  • 'Llenorion Arfon a'r Rhyfel Mawr': darlith i Gymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Neuadd Goffa Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle, 15 Medi 2016.

    2016

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd)
  • Yr Athro Angharad Price yn holi'r Prifardd Guto Dafydd, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol 2016 am ei nofel Ymbelydredd

    2016

    Cysylltau:

    • /ysgolygymraeg/digwyddiadau/noson-yng-nghwmni-r-prifardd-guto-dafydd-28914
    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Rhaglen wedi ei threfnu gan BBC Radio Cymru i goffáu Gwyn Thomas; dan gadeiryddiaeth Dylan Iorwerth, fe'i darlledwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Recordiwyd yn fyw yn y Babell Lê, Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 30 Gorffennaf 2016.

    2016

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
  • Enillodd Cynan ei Gadair Genedlaethol yn Eisteddfod Pont-y-pŵl yn 1924. A'r gerdd ar y mesur tri thrawiad, amheuai amryw ar y pryd ac yn ddiweddarach ai awdl oedd y gerdd o gwbl. Sgwrs a recordiwyd fel rhan o ddarllediadau BBC Radio Cymru adeg Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, 30 Gorffennaf-6 Awst 2016.

    2016

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Golygwyd Creithiau: dylanwad y Rhyfel Mawr ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru gan Dr Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe a'i cyhoeddi yng nghyfres Gwasg Prifysgol o fonograffau beirniadol, Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig. Fe'i lansiwyd mewn cyfarfod ym mhabell y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 4 Awst 2016.

    2016

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Cyfarfod coffa Gwyn Thomas wedi ei drefnu gan BBC Cymru er mwyn ei ddarlledu'n ddiweddarach.

    2016

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Golygydd Ymgynghorol i'r gyfres Ysgrifau Beirniadol a olygir gan Angharad Price

    2016

    Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Aelod o fwrdd golygyddol)

2015

  • 2015

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Cyfrannwr)
  • Cadeirydd Panel Datganiad Meincnod Cymraeg y QAA.

    2015 – 2016

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Aelodaeth o banel neu bwyllgor adolygu cymheiriaid (Cyfrannwr)
  • Cwrs a drefnir gan Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor ar y cyd a Chanolfan yr Urdd, Glan-llyn, Y Bala, Gwynedd ar gyfer disgyblion Safon Uwch Cymraeg (Iaith Gyntaf ac Ail Iaith); caed cyfraniadau gan staff Bangor a siaradwyr allanol.

    2015

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • Darlith a draddodwyd i Gymdeithas y Fainc Sglodion, Blaenau Ffestiniog, 5 Tachwedd 2015.

    2015

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Cyfrannwr)
  • Sgwrs rhwng Bardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2015 ac un o'r beirniaid, Gerwyn Wiliams

    2015

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 2015

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Ymgysylltu ag ysgolion (Cyfrannwr)

2014

  • The collaborative Centre for Doctoral Training (CDT) in the Celtic Languages is funded by the Arts and Humanities Research Council for the period 2014-19, and will manage over that period doctoral scholarships and training programmes in Celtic Languages, Literatures and Cultures. A consortium of 12 higher education organisations across the UK will award doctoral studentships and support the training of students in a new, collaborative fashion. The Consortium Members are the universities of Aberdeen, Bangor, Cambridge, Edinburgh, Glasgow, Oxford, Swansea, Queens University Belfast, the University of Ulster, the University of the Highlands and Islands/Sabhal Mòr Ostaig, the University of Wales Trinity Saint David, and the University of Wales Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies; the Centre is managed by the University of Glasgow.

    Part of the Centre’s activities will be training programmes in Celtic languages, literatures and cultures, and students will be enabled in an unprecedented way to partake of shared supervision and resources across these universities, and to engage with partners outside the higher education sector. The consortium will be aided in this by three core partners, BBC Northern Ireland, Bòrd na Gàidhlig, and the National Library of Wales.

    2014 – 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Aelodaeth o banel neu bwyllgor adolygu cymheiriaid (Aelod)
  • 2014

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • 'Segur fydd y cÅ·n a'r morthwyl mwy' : dehongli portreadau o'r bröydd chwarelyddol ers 1972': traethawd PhD Elin Gwyn. Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe, yn Arholydd Allanol; minnau'n Arholydd Mewnol. Cyfarwyddwyd y project gan Yr Athro Angharad Price.

    2014

    Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
  • 2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
  • Sgwrs gydag aelodau cymdeithas lenyddol Capel Coffa, Cyffordd Llandudno am farddoniaeth Cynan.

    2014

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • 'Cofio a Ffuglenoli'r Rhyfel Byd Cyntaf': Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr, Llanelli, 5 Awst 2014. Darlith yn datgelu ymchwil newydd am Gwaed Gwirion, 'clasur' o 'nofel' Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf a gyhoeddwyd yn 1965 gan Emyr Jones.

    2014

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • 2014 – 2015

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa (Aelod)
  • Darlith ar y modd yr ymatebodd Cynan i'r Rhyfel Mawr ar y pryd ac fel yr ymdopodd â'r profiad yn ddiweddarach yn ei oes.

    2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd)
  • 2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • Trafod profiadau Cynan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'i ymatebion personol a chreadigol iddo.

    2014

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
  • 2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • 'Cynan's "Anfon y Nico": sending a goldfinch as a harbinger of modernism'

    2014

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
  • Darlith ar weithgaredd Cynan fel darllenydd dramâu Cymraeg i'r Arglwydd Siambrlen, 1931-68.

    2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • Trafodaeth ar waith Cynan fel darllenydd dramâu Cymraeg i'r Arglwydd Siambrlen, 1931-68.

    2014

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Ar sail gwaith ymchwil gwreiddiol, rhaglen deledu yn ailedrych ar y 'clasur' o 'nofel' Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf, Gwaed Gwirion (1965) gan Emyr Jones; sefydlir mai darn o lên-ladrad ydyw a 'fenthyciodd' yn hael o gofiant Frank Haydn Hornsey, Hell on Earth, a gyhoeddwyd yn 1929. Cynhyrchwyd y rhaglen gan gwmni Ffranc (Huw Chiswell).

    2014

    Cysylltau:

    • /cah/newyddion/bwrw-golwg-newydd-ar-glasur-rhyddiaith-y-rhyfel-byd-cyntaf-19611
    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyflwynydd)
  • Arolwg o'r ymateb llenyddol Cymraeg i'r Rhyfel Byd Cyntaf.

    2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • Noson yng nghwmni'r Prifardd Guto Dafydd, enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2014

    2014

    Cysylltau:

    • /ysgolygymraeg/digwyddiadau/noson-guto-dafydd-20561
    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
  • 2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus (Darlithydd)
  • Ar drothwy canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, Awst 1914-Tachwedd 1918, cylfe i bwyso a mesur ymateb un o brif feirdd Cymraeg y rhyfel hwnnw, Albert Evans Jones, neu'n fwy cyfarwydd, Cynan.

    2014

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • 'Rhyfel Mawr Cynan': darlith i gymdeithas lenyddol Capel Hyfrydle, Caergybi, 6 Tachwedd 2014.

    2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Cyfrannwr)
  • Darlith awr ginio yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn pwyso a mesur effaith y Rhyfel Byd Cyntaf ar Cynan, o ran ei fywyd a'i waith creadigol.

    2014

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd (Darlithydd)
  • Ymweld a Leeuwarden yn yr Iseldiroedd ar gyfer seremoni PhD Jelle Krol. Bum yn gweithredu fel ail gyfarwyddwr ar gyfer y project hwn, 2014-18.

    2014 – 2018

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)

2013

  • Golygydd Ymgynghorol ar y gyfres Ysgrifau Beirniadol a olygir gan Angharad Price a Tudur Hallam

    2013 – 2015

    Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Aelod o fwrdd golygyddol)

2010

  • Cadeirio panel trafod ar y ffilm Hedd Wyn. Roedd y panel hefyd yn cynnwys yr actor Huw Garmon, y Prifardd Alan Llwyd, Naomi Jones o'r Ysgwrn a'r Athro Gerwyn Wiliams

    28 Chwef 2010

    Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
  • Mae'r Cyngor Celfyddydau Cymru yn ariannu, datblygu a chefnogi'r celfyddydau.

    2010 – 2016

    Gweithgaredd: Mathau o Fusnes a Chymuned - Aelodaeth o grŵp neu banel cynghori/polisi cyhoeddus/llywodraeth (Aelod)
  • Cefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hyrwyddo darllen er pleser yw cenhadaeth y Cyngor Llyfrau, ac mae’n prif amcanion a’n swyddogaethau craidd yn adlewyrchu hyn.

    Mae’n Cyfansoddiad yn gosod yn glir amcanion y sefydliad, sef hybu, cefnogi a datblygu gwerthfawrogiad a diddordeb y cyhoedd mewn llenyddiaeth.

    2010 – 2019

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Cyfraniad at waith pwyllgorau a gweithgorau cenedlaethol neu ryngwladol (Aelod)

2009

  • Golygydd Cyffredinol ar gyfres Gwasg Prifysgol Cymru o fonograffau beirniadol, Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: cyfanswm o 8 teitl

    2009 – 2018

    Cysylltau:

    Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Golygydd)

2007

  • Golygydd y gyfres Ysgrifau Beirniadol: 4 cyfrol

    2007 – 2011

    Gweithgaredd: Gweithgarwch golygyddol (Golygydd)

Projectau

  • 20/08/2007 – 31/07/2011 (Wedi gorffen)

Gwybodaeth Arall

Gwaith golygu, darlithio allanol, etc.

Rhwng 1993 a 1999 bu’n golyguÌýTaliesin, cylchgrawn yr Academi Gymreig, yn gyntaf gyda’r Athro John Rowlands ac yn ddiweddarach gyda Dr Jerry Hunter, ac rhwng 2005 a 2011 bu'n olygyddÌýYsgrifau BeirniadolÌý(am gyfnod gyda Dr William R. Lewis). Gwasanaethodd sawl gwaith fel un o feirniaid cystadlaethau’r Gadair, y Goron a’r Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.Ìý Bu’n beirniadu’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Cyffiniau yn 2003.Ìý Ef hefyd oedd un o’r beirniaid yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug yn Awst 2007.Ìý

Fe’i gwahoddwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd i draddodi Darlith Goffa G.J. Williams yn 2007. Yr un flwyddyn daeth ei ysgrif ar gerddi rhyfel Alun Llywelyn-Williams o’r wasg ynÌýTheÌýOxfordÌýHandbook of British and Irish War PoetryÌýa olygwyd gan yr Athro Tim Kendall. Cyn hynny, yn Nhachwedd 2006, trefnodd gynhadledd o’r enwÌýMwy na Rhywbeth i’w Wneud?Ìý Barddoni mewn Canrif Newydd: ymhlith y rhai a gymerodd ran yr oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyn Thomas.

Hafan

Amdanom Ni

Ysgolion Academaidd a Cholegau

Ysgol y Gymraeg

  • Staff
    • Professor Gerwyn Wiliams
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor