Cryfhau Cysylltiadau Academaidd: Prifysgol Bangor a CUPL yn Lansio’r Gyfnewidfa Ddysgu Gyntaf!
Rydym yn falch o rannu'r newyddion am gyfnewidfa ddysgu newydd sbon rhwng Prifysgol Bangor a'r China University of Political Science and Law (CUPL), cam cyntaf cyffrous mewn partneriaeth academaidd yr ydym yn gobeithio a fydd yn un hirhoedlog a gwerthfawr.
Yn yr haf, Dr Eirini Sanoudaki oedd yr aelod cyntaf o staff Bangor i gymryd rhan yn y gyfnewidfa, gan ddysgu cwrs ar gaffael iaith i fyfyrwyr CUPL yn Beijing. Roedd ei chyfnod yno yn llwyddiant ysgubol, gyda’r myfyrwyr yn ymateb yn frwdfrydig i'w darlithoedd ac yn cynnig canmoliaeth trwy gydol y cwrs.
Gwnaeth cyfnod Dr Sanoudaki ar lawr y dosbarth argraff barhaol. Daeth yn ôl i Fangor gyda detholiad o luniau a negeseuon meddylgar gan fyfyrwyr, yn adlewyrchu'r cysylltiad cryf a adeiladodd â'r myfyrwyr. Ysgrifennodd un myfyriwr: “Mwynheais y darlithoedd yn fawr iawn. Dysgais lawer am iaith a sut mae'n gweithio. Roedd yn ddifyr iawn. Diolch am eich dysgu brwdfrydig a difyr!â€
Meddai un arall: “Mae'r gwersi'n ddiddorol ac yn ystyrlon… Dw i'n hoffi cyflymder eich darlithoedd a'ch ffyrdd dysgu llawn hiwmor a diffuant. Rwy'n teimlo mor hapus a hamddenol y dyddiau hyn."
Dywedodd llawer o fyfyrwyr fod y cwrs wedi gwneud iddynt feddwl am iaith a chyfathrebu mewn ffordd newydd. Dyma oedd un sylw cofiadwy yn ei ddweud: “Roedd gennyf ddealltwriaeth sylfaenol o ieithyddiaeth. Mae gan iaith batrymau… mae hynny'n wych!â€
Wrth feddwl am ei phrofiad, dywedodd Dr Sanoudaki: “Mi wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr iawn, ac rwy’n ddiolchgar i Sefydliad Confucius am drefnu a chefnogi’r gweithgaredd hwn. Ymatebodd y myfyrwyr yn CUPL yn frwdfrydig wrth ddysgu am ieithyddiaeth a Bangor; dysgais lawer am yr iaith Tsieinëeg, lletygarwch a diwylliant gwych, a gwneud cysylltiadau a ffrindiau newydd. Mae’r fenter hon wedi helpu datblygu cysylltiadau a fydd yn rhai parhaol, yn fy marn i: Dw i'n edrych ymlaen at y camau nesaf a'm hymweliad nesaf yn barod!â€
Rydym yn falch dros ben bod profiad Dr Sanoudaki wedi bod yn werthfawr ac yn effeithiol, iddi hi ac i'r myfyrwyr hefyd. Wrth iddi ddychwelyd i Fangor i rannu ei phrofiadau gyda’i chydweithwyr, rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y dechrau cadarnhaol hwn.
Mae'r cynllun cyfnewid hwn eisoes wedi dangos potensial fel llwyfan i gydweithio academaidd a diwylliannol. Rydym yn falch o fod wedi gallu cynnig cefnogaeth i helpu hwyluso'r cynllun cyfnewid hwn, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyfrannu at gryfhau cysylltiadau academaidd a diwylliannol rhwng ein prifysgolion partner.