'Shinrin-yoku Forest Bathing'
Camwch i dawelwch y goedwig ac ailgysylltwch â'ch synhwyrau, eich anadl, a rhythmau'r byd naturiol.
Rhannwch y dudalen hon
Wedi'i hysbrydoli gan yr arfer Japaneaidd Shinrin-yoku (ymdrochi yn y goedwig), mae'r daith gerdded dywys hon yn eich gwahodd i arafu a phrofi'r tir mewn ffordd ystyriol a hynod faethlon.
Wedi'i gwreiddio yng nghanol harddwch gwyllt gogledd Cymru, mae'r sesiwn hon yn plethu doethineb hynafol Olwyn Geltaidd y Flwyddyn a llên gwerin Cymru â’r wyddoniaeth a’r enaid y tu ôl i ymdrochi yn y goedwig. Wrth i ni symud yn ysgafn drwy’r coetir, cewch eich gwahodd i sylwi ar droad y tymor, gwrando ar sibrwd coed brodorol, ac archwilio straeon y tir sydd wedi cael eu cario o genhedlaeth i genhedlaeth.