Beth y mae hyn yn ei olygu i staff Prifysgol Bangor?
Os ydych eisoes yn aelod o gynllun pensiwn, ni fydd yn cael fawr ddim effaith arnoch.
Os nad ydych yn aelod o gynllun ar hyn o bryd, yna bydd cofrestru awtomatig yn effeithio arnoch.
Staff Cefnogol ac Ategol (Gradd 1 i 6)
Os ydych chi'n aelod o'r staff cefnogi, cewch eich cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Prifysgol Bangor os byddwch yn cyflawni'r meini prawf. Gall holl aelodau staff cefnogi, rhwng 18 a 60 oed, ymuno â Chynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor pan gânt eu penodi i swydd. Mae aelodaeth ar ôl yr amser hwn yn ôl disgresiwn Ymddiriedolwyr y cynllun, ond os oes gennych ddiddordeb ymuno neu ail-ymuno â Chynllun Pensiwn ac Yswiriant Prifysgol Bangor, cysylltwch ag Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr, Miss Eluned Hughes, Gwasanaethau Cyllid.
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i gofrestru deiliaid swyddi cymwys ar gynllun pensiwn os nad ydynt eisoes yn aelodau o gynllun. Deiliaid swyddi cymwys yw unrhyw aelod o staff sydd:
• rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth, ac
• yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn (£833 y mis)
Caiff staff eu cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Prifysgol Bangor (CPPB).
Staff academaidd neu broffesiynol (Gradd 7 ac uwch)
Os ydych yn aelod o'r staff academaidd neu broffesiynol, cewch eich cofrestru'n awtomatig I’r ‘University Superannuation Scheme’ (USS) os byddwch yn cyflawni'r meini prawf (oni bai eich bod eisoes yn derbyn pensiwn gan yr USS - yn yr achos hwnnw cewch eich cofrestru'n awtomatig i'r CPPB).
Mae gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i gofrestru deiliaid swyddi cymwys ar gynllun pensiwn os nad ydynt eisoes yn aelodau o gynllun. Deiliaid swyddi cymwys yw unrhyw aelod o staff sydd:
• rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth, ac
• yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn (£833 y mis)
Caiff staff eu cofrestru’n awtomatig ar gyfer Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) .
(Sylwer: os ydych yn derbyn pensiwn drwy’r USS, ni allwch ail-ymuno â’r USS ond byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig i’r CPPB).
Gweithwyr Achlysurol
Mae'r term 'gweithiwr achlysurol' yn cyfeirio at unrhyw un a allai weithio am gyfnodau byr yn ôl y gofyn ar ran y Brifysgol. Mae hyn fel arfer ar gyfer tasgau unigol neu ddigwyddiadau penodol ac nid yw'n cynnwys staff â chytundebau rheolaidd.
Os ydych yn weithiwr achlysurol, byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig i’r National Employment Savings Trust (NEST) os byddwch yn bodloni'r meini prawf. Mae gan y Brifysgol ddyletswydd statudol i gofrestru staff cymwys i gynllun pensiwn os nad ydynt eisoes yn aelodau o gynllun. Deiliaid swyddi cymwys yw unrhyw weithwyr sydd:
• rhwng 22 ac oedran pensiwn y wladwriaeth, ac
• yn ennill mwy na £10,000 y flwyddyn (£833 y mis)
Caiff staff achlysurol ei gofrestru’n awtomatig i’r cynllun NEST.
Lle gallaf gael rhagor o wybodaeth?
Gall staff sydd eisiau gwybod mwy am Ddeddf Bensiynau 2008 neu gofrestru awtomatig yn fwy cyffredinol, mae digon o wybodaeth ar wefan yr , gwefan y a