Dyfarnu Grant Ewropeaidd gwerth €3 Miliwn i Brifysgol Bangor i arwain project astudiaethau Arthuraidd

²Ñ²¹±ð’r Athro Raluca Radulescu o Brifysgol Bangor wedi derbyn grant Ewropeaidd mawreddog gwerth €3 miliwn o dan ar gyfer ei phroject ‘EU ARTHURS: European Arthurs, Medieval to Modern’ (rhif project 101226326).
Mae'r dyfarniad arwyddocaol hwn, y cyntaf a'r mwyaf o'i fath yng Nghymru, a'r unig grant o'r math hwn sy’n cael ei ddyfarnu i’r Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y Deyrnas Unedig eleni, yn gosod Prifysgol Bangor ar flaen y gad o ran Astudiaethau Arthuraidd rhyngwladol. Bydd y project yn uno ysgolheigion o chwe gwlad Ewropeaidd - Cymru, Gwlad yr Iâ, yr Eidal, Ffrainc, yr Iseldiroedd a'r Swistir - mewn consortiwm unigryw sy’n archwilio traddodiadau Arthuraidd o lawysgrifau canoloesol i ddehongliadau amlgyfrwng modern.
Gan ddechrau’r flwyddyn nesaf, bydd y cyllid yn galluogi'r Athro Radulescu a'i chydweithwyr i recriwtio'r ymgeiswyr doethurol gorau o bob cwr o’r byd i wneud ymchwil sy’n cymharu’r canol a’r cyrion yn nhraddodiadau Arthuraidd llawysgrifol ac amlgyfrwng ieithoedd Ewrop yn y cyfnod canoloesol ac ôl-ganoloesol.
Bydd yr Athro Radulescu yn arwain tîm o tua 35 o academyddion, cymrodyr doethurol, a phartneriaid o brifysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, cyhoeddwyr, a sefydliadau diwylliannol eraill ledled Ewrop. Mae'r project yn cynnwys ymchwil academaidd a hyfforddiant lefel uchel, gan sicrhau ymgysylltiad cyhoeddus ac effaith ymchwil gref.
Mae project ‘EU ARTHURS’ yn adeiladu ar arbenigedd sefydledig Prifysgol Bangor mewn Astudiaethau Arthuraidd, dan arweiniad y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Bydd yn gwella enw da byd-eang y Ganolfan wrth gyfrannu at baratoadau REF2029 Prifysgol Bangor drwy gyhoeddiadau Mynediad Agored, cynadleddau academaidd, a digwyddiadau hyfforddi. Bydd y digwyddiadau hyn yn agored i'r gymuned academaidd a'r cyhoedd ehangach, gan atgyfnerthu ymhellach ymrwymiad Prifysgol Bangor i ymchwil gynhwysol ac effeithiol.
Dywedodd yr Athro Radulescu, “Mae’n bleser o’r mwyaf derbyn y gydnabyddiaeth ryngwladol hon mewn cyfnod pan mae’n anodd sicrhau cyllid ymchwil. Yn ogystal â chydnabod ein henw da rhyngwladol am Astudiaethau Arthuraidd, mae’r dyfarniad hwn hefyd yn dod â chyfleoedd aruthrol i Brifysgol Bangor a'n partneriaid Ewropeaidd. Byddwn yn ehangu capasiti ymchwil doethuriaeth yn sylweddol ac yn meithrin cydweithrediadau hirdymor ar draws y cyfandir.â€
Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke, “Llongyfarchiadau i’r Athro Radulescu ar sicrhau’r grant €3 miliwn hwn o gynllun ariannu Ewropeaidd mor gystadleuol. Mae hyn yn dyst i'w harweinyddiaeth a'i hysgolheictod, ond hefyd i safon yr ymchwil sy'n digwydd o fewn y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd. Mae'r cyrhaeddiad hwn yn helpu i gryfhau ein safle ar y llwyfan rhyngwladol ac yn tynnu sylw at gyfraniad hanfodol ymchwil yn y Celfyddydau a'r Dyniaethau."
Dywedodd yr Athro Enlli Thomas, Dirprwy Is-ganghellor a Phennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, “Gan fod y project cyffredinol y bydd y grant hwn yn ei gyflawni yn canolbwyntio ar bob agwedd ar astudiaethau Arthuraidd - gan gynnwys agweddau llenyddol, hanesyddol, diwylliannol ac amlgyfrwng - o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw ar draws Ewrop gyfan, mae'r grant hwn yn dangos gwerth y Celfyddydau a'r Dyniaethau i gymdeithas fodern.'