Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r LLM Cyfraith Busnes Rhyngwladol a Chynaliadwyedd hwn yn berffaith i’r rhai sydd â diddordeb mewn cyfraith fasnachol ryngwladol a sut mae cyfraith breifat yn croestorri â chynaliadwyedd.
Mewn byd cynyddol gydgysylltiedig, mae croestoriad y gyfraith, busnes a chynaliadwyedd wedi dod yn hollbwysig. Mae'r LLM Cyfraith Busnes Rhyngwladol a Chynaliadwyedd yn rhoi cyfle unigryw i lunio dyfodol masnach fyd-eang wrth hyrwyddo ymarfer cynaliadwy sy'n hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol ochr yn ochr â blaenoriaethau hinsawdd.
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau cyfreithiol i lwyddo yn y sector cyfreithiol a thu hwnt. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso theori i ymarfer, gan fynd i'r afael â materion cyfreithiol y byd go iawn yng nghyd-destun busnes a chynaliadwyedd, cymhwyso'r dysgu i faterion cyfreithiol cymhleth a chyfoes, gyda ffocws cryf ar y ddadl gynaliadwyedd sy'n datblygu. Mae ein cwricwlwm blaengar yn integreiddio agweddau ar gyfraith busnes rhyngwladol ag egwyddorion cynaliadwyedd, gan ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o sut mae’r dirwedd gyfreithiol fyd-eang yn esblygu.
Mae'r gyfraith yn greadigaeth o'r amgylchedd y mae'n gweithredu ynddo. Mae hyn yn cynnwys cyfeiriad at normau moesegol, cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol ac economaidd. Yn fwy diweddar, mae cynaliadwyedd wedi dod i'r amlwg fel sbardun masnachol yng ngweithrediad busnesau bach a mawr. Mae cynaliadwyedd yn ymestyn y tu hwnt i bryderon amgylcheddol yn unig, gan gwmpasu trafodaeth lawer ehangach i gynnwys gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, pryderon cymdeithasol, arferion cyflogaeth a rheoli cadwyn gyflenwi, ymhlith eraill. Mae'r ddadl ar gynaliadwyedd wedi cyrraedd lefel ystafell bwrdd a bydd yn llywio penderfyniadau deddfwriaethol ymhell i ganol yr unfed ganrif ar hugain.
Bydd y rhaglen yn darparu dadansoddiad cyfoes o'r gyfraith, gan gwmpasu materion cyfreithiol sy'n berthnasol i Gymru, y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer ystod amrywiol o ddewisiadau gyrfa o'r Gyfraith, Busnes a Chyllid, Addysg a Pholisi Cyhoeddus. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymchwilio, trafod ac ysgrifennu ar effaith cynaliadwyedd yng nghyd-destun busnes modern.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau gorfodol:
- Llywodraethu Corfforaethol Rhyngwladol mewn Byd Cynaliadwy (20 credyd)
- Dulliau Ymchwil y Gyfraith (20 credyd)
Elfen graidd o’r LLM hwn yw’r Traethawd Hir (60 credyd) lle bydd disgwyl i fyfyrwyr wneud ymchwil annibynnol.
Byddwch hefyd yn cymryd 80 credyd o fodiwlau dewisol a all gynnwys;
- Cyfraith Busnes a Hawliau Dynol (20 credyd)
- Cyfraith a Pholisi Newid Hinsawdd Rhyngwladol (20 credyd)
- Cyfraith Masnach Byd-eang (20 credyd)
- Cyfraith Ryngwladol Gyhoeddus (20 credyd)
- Materion Cyfoes mewn Cyfraith Amgylcheddol Ryngwladol (20 credyd)
Syniad bras o'r modiwlau yn unig sydd yma a gallai pethau newid.
Caiff y cwrs ei ddysgu trwy gyfuniad o’r isod:
- Seminarau
- Hunan-astudio
- Ymgysylltu drwy Amgylchedd Dysgu Rhithiol
- Goruchwyliaeth unigol
Mae'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn amrywio yn ôl pwnc a lefel y modiwl.
Bydd yr asesu’n cynnwys cymysgedd o’r canlynol:
- Traethodau
- Prawf
- Mewn asesiadau dosbarth
- Cynigion
- Astudiaethau achos
- Traethawd hir
- Cyflwyniadau
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw’r wybodaeth yma a gallai newid.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer y cwrs hwn rydym yn derbyn ceisiadau gan raddedigion cyrsiau LLB a byddwn yn ystyried graddedigion o ddisgyblaethau eraill perthnasol. Rhoddir ystyriaeth arbennig i ymgeiswyr sydd wedi astudio pynciau sy’n ymwneud â'r radd (yn enwedig busnes a chynaliadwyedd).
Mae disgwyl fod gan ymgeiswyr ar radd gyntaf i safon 2.ii neu uwch (neu gyfwerth) yn y Gyfraith neu gwrs sy'n gysylltiedig â'r gyfraith. Ystyrir graddau mewn pynciau eraill fesul achos.
Bydd ymgeiswyr sydd â chymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad ymarferol perthnasol a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried fesul achos.
Fel rheol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr rhyngwladol nad yw’r Gymraeg neu’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt gyflwyno tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg. Gofyniad sylfaenol iaith Saesneg - IELTS o 6.5 (heb yr un elfen o dan 6.0), neu gyfwerth.
Sylwch: Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol, os ydynt yn dymuno gweithredu fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn dilyn eu hastudiaethau prifysgol, y bydd angen iddynt gyflawni gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau'r Bar i ddod yn gymwysedig. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni gofynion yn ymwneud â throseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir darpar fyfyrwyr sydd ag euogfarnau troseddol i gysylltu â'r corff proffesiynol perthnasol i gael cyngor.
Gyrfaoedd
Mae’r rhaglen arloesol hon wedi’i chynllunio ar gyfer gweithwyr cyfreithiol proffesiynol uchelgeisiol, arweinwyr busnes, ac ysgogwyr newid sy’n awyddus i lywio cymhlethdodau cyfraith busnes rhyngwladol gyda ffocws cryf ar gynaliadwyedd.
Bydd yr LLM hwn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o swyddi medrus iawn nid yn unig yn y proffesiwn cyfreithiol ond hefyd mewn busnes rhyngwladol a meysydd diwydiant a thechnoleg lle mae cyfraith busnes yn gweithredu, gan weithio ym meysydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y sgiliau y byddwch yn eu hennill yn werthfawr iawn ar draws ystod o sectorau gan gynnwys, academia, cyllid, addysg, polisi cyhoeddus, gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Gyda chysylltiadau cryf â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i helpu eich cyflogadwyedd, er enghraifft mae ein ffair yrfaoedd flynyddol yn cysylltu myfyrwyr ag amrywiaeth o ddarpar gyflogwyr. Mae ein rhaglen unigryw CYMUNED yn darparu mynediad i swyddi, interniaethau, a chyfleoedd eraill i roi hwb i’ch CV. Gallwch hefyd ddatblygu sgiliau eiriolaeth ychwanegol yn ein hystafell ffug lys ar y campws.
Mae’r rhaglen LLM hon yn arbennig o werthfawr os ydych yn gobeithio datblygu gyrfa ym maes cyfraith ddomestig, ranbarthol neu ryngwladol, neu os ydych yn gweithio yn y sector cyfreithiol ar hyn o bryd ac yn awyddus i ehangu eich gwybodaeth a’ch sgiliau.
Dyma rai o’r swyddi nodweddiadol:
- Gweithwyr Cyfreithiol Proffesiynol
- Bancio a Chyllid
- Llywodraeth Ganolog a Lleol
- Cyrff Anllywodraethol
- Diogelwch
- Academia
Sylwch: Dylai darpar fyfyrwyr fod yn ymwybodol, os ydynt yn dymuno gweithredu fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn dilyn eu hastudiaethau prifysgol, y bydd angen iddynt gyflawni gofynion yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr neu Fwrdd Safonau'r Bar i ddod yn gymwysedig. Bydd hyn yn cynnwys cyflawni gofynion yn ymwneud â throseddau ac ymddygiad troseddol. Cynghorir darpar fyfyrwyr sydd ag euogfarnau troseddol i gysylltu â'r corff proffesiynol perthnasol i gael cyngor.